Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 16 Mawrth 2021.
Ein prif ased o ran ynni adnewyddadwy yw'r symudiad llanw yn aber afon Hafren. Mae'n cyfateb i ynni dŵr a phŵer geothermol yng Ngwlad yr Iâ, a phŵer dŵr yn Tsieina a Brasil. Ni fu amheuaeth erioed ynghylch cefnogaeth Llywodraeth Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog barhau i bwyso ar Lywodraeth San Steffan o ran cynhyrchu trydan drwy forlyn llanw, gan ddechrau gydag Abertawe yn amlwg?