Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 16 Mawrth 2021.
Prif Weinidog, fel un sy'n hoff o gŵn, rwy'n gwybod mai eich ci yw eich ffrind gorau yn aml ac, fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, mae'n sicr yn aelod o'r teulu. Nawr, mae'n peri pryder mawr i wybod bod troseddwyr yn targedu cŵn ac anifeiliaid anwes eraill i'w dwyn. Mae'r bobl hyn yn gwbl warthus, yn gwbl warthus. Prif Weinidog, pa sgyrsiau y mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r heddlu a'r Swyddfa Gartref i sicrhau bod y troseddwyr hyn yn cael eu dwyn i gyfiawnder, a pha sgyrsiau ydych chi wedi eu cael am effaith toriadau heddlu Ceidwadwyr y DU a'u methiant i ddarparu'r 62 o heddweision ychwanegol a addawyd yng Nglannau Dyfrdwy?