Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 16 Mawrth 2021.
Diolch, Prif Weinidog. I lawer o bobl, nid anifail anwes yn unig yw eu ci, maen nhw'n aelod o'r teulu, ac mae cael yr aelod hwnnw o'r teulu wedi ei rwygo yn ddisymwth oddi wrthych chi fel y gall rhywun wneud elw y tu hwnt i'm dychymyg i, ac rwy'n siŵr bod pob person sydd â gronyn o dosturi yn teimlo felly. Ni allaf ddychmygu y gofid calon y mae'r bobl hynny yn ei ddioddef. Felly, er fy mod i'n derbyn, Prif Weinidog, bod materion troseddu a dedfrydu wedi eu cadw yn ôl ar gyfer Llywodraeth y DU, gallwn ni gymryd camau i wneud y troseddau hyn yn fwy anodd eu cyflawni. Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried gosod cyfyngiadau llymach ar werthiannau trydydd parti o anifeiliaid anwes i sicrhau nid yn unig bod safonau lles anifeiliaid llym yn cael eu bodloni ond i ddileu'r farchnad ddu mewn gwerthiannau anifeiliaid? Diolch.