Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 16 Mawrth 2021.
Nid wyf i'n cydnabod y ffigur naw diwrnod o gwbl. Bydd yr Aelod yn falch iawn o wybod, o ystyried ei phryderon, y cyrhaeddwyd 90 y cant o gysylltiadau agos yr wythnos diwethaf o fewn 24 awr, ac y cyrhaeddwyd 93 y cant o achosion mynegai o fewn 24 awr. Felly, o ble mae'r naw diwrnod yn dod, wn i ddim, ond yr wythnos diwethaf dyna'r ffigurau a adroddwyd. Mae hynny yn llawer iawn gwell na'r tridiau y mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi ei nodi, ac rwy'n credu bod hynny yn dangos unwaith eto lwyddiant y system sydd gennym ni yma yng Nghymru.