Gwasanaethau Gofal Sylfaenol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 16 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:28, 16 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Wrth gwrs, bu'n rhaid i fyrddau iechyd wneud newidiadau i'r ddarpariaeth o ofal sylfaenol. Un enghraifft yn fy rhanbarth i yw y bu'n rhaid cau'r feddygfa ym mhentref Trimsaran dros dro fel ei bod yn cael ei chadw fel lle y gellir ei ddefnyddio i drin cleifion COVID os oes angen. Mae'r gymuned wedi derbyn hyn, ond maen nhw'n bryderus am y sefyllfa uniongyrchol, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw deithio i Gydweli nawr, ac ar yr un pryd mae'r gwasanaethau bysiau wedi cael eu cwtogi oherwydd COVID—storm berffaith, ond efallai na ellir ei hosgoi. Ond mae amheuaeth y gallai'r bwrdd iechyd ddefnyddio argyfwng COVID i gau'r feddygfa honno yn barhaol. Yn amlwg, rwy'n credu y byddem ni eisiau llongyfarch y bwrdd iechyd ar sut y mae wedi ymdrin â'r argyfwng, ac nid yw'r materion gweithredol hyn yn faterion i'r Prif Weinidog, ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog heddiw a allai ef dawelu meddyliau fy etholwyr i yn Nhrimsaran nad yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl i unrhyw newidiadau i wasanaethau gofal sylfaenol sydd wedi eu gwneud oherwydd argyfwng COVID gael eu hymestyn y tu hwnt i'r pandemig heb asesiad ac ymgynghoriad priodol?