Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 16 Mawrth 2021.
Llywydd, rydym ni eisoes yn bwrw ymlaen â llawer o'r awgrymiadau a wnaed gan gomisiwn Burns. Bydd ei gyfres uchelgeisiol o argymhellion yn arwain at welliannau trafnidiaeth sylweddol i'r rhanbarth. Mae adroddiad dros dro adolygiad Hendy yn tynnu sylw at yr achos dros welliannau i brif reilffordd de Cymru, fel y cynigiwyd gan y comisiwn.