Trafnidiaeth yn Ne-Ddwyrain Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 16 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:36, 16 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, nid oes gennyf ddim i'w ychwanegu at yr hyn y mae fy nghyd-Aelod eisoes wedi'i ddweud wrth yr Aelod am y mater hwnnw. Rwy'n falch iawn serch hynny o'i chlywed yn troi at benderfyniadau lleol. Bydd yn teimlo mor ddig â mi, felly, fod Gweinidogion yn ei Llywodraeth yn Llundain yn esgus yn barhaus fod ganddyn nhw bwerau i wneud penderfyniadau yn gysylltiedig â ffordd liniaru'r M4—does ganddyn nhw ddim. Gwneir y penderfyniadau hynny'n briodol yn y fan yma, ac mae croeso mawr i dröedigaeth yr Aelod at hynny.