Troseddau Gwledig

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 16 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:51, 16 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn eto. Mae hi wedi, wrth gwrs, fel y gwnaeth hi sôn yn y cwestiwn, dod â hyn at fy sylw o'r blaen, ac mae'n amlwg yn fater pwysig iawn, iawn yn ei hetholaeth ac ar draws Cymru. Rwy'n credu bod tystiolaeth dda iawn o gydweithio rhwng yr asiantaethau perthnasol yng Nghymru, sydd, rwy'n credu—ac rwy'n gwybod y byddai hi'n cydnabod hyn—wedi cael ei ystyried yn arfer gorau mewn mannau eraill. Mae'r sylw y mae hi'n ei wneud yn benodol ynghylch dwyn cerbydau, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Mae'n sicr yn un o'r blaenoriaethau o blith yr amrywiaeth bresennol, yn anffodus, o droseddau gwledig a bywyd gwyllt yng Nghymru. Mater i'r Gweinidog yn y portffolio perthnasol yw hyn, yn bennaf, wrth gwrs, ac rwy'n ymwybodol ei bod hi wrthi'n ystyried cynnig penodol i gynyddu'r pwyslais ar droseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yng Nghymru, ac fe allwn ddisgwyl cyhoeddiad ganddi ar y mater hwnnw yn ystod y dyddiau nesaf.