Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 16 Mawrth 2021.
Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad yr wythnos hon, os gwelwch chi'n dda, y cyntaf gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â gwrthsemitiaeth ym mhrifysgolion Cymru? Mae Llywodraeth Cymru a llawer o gyrff cyhoeddus ledled Cymru wedi mabwysiadu diffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth, ond mae'n destun gofid mawr, rwy'n credu, nad yw rhai prifysgolion yng Nghymru wedi mabwysiadu'r diffiniad hwnnw eto. Fel yr ydych chi'n ymwybodol, mae Llywodraeth y DU wedi mynd ati i annog prifysgolion yn Lloegr i fabwysiadu diffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth, ac rwy'n credu y byddai'n dda iawn i bobl Cymru wybod a yw Llywodraeth Cymru yn cymryd camau tebyg i fynd i'r afael â phla gwrthsemitiaeth mewn rhai rhannau o'n sector addysg uwch yma yng Nghymru.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ei gael yw un sy'n rhoi eglurder i'r diwydiant hamdden ynghylch a fydd campfeydd a phyllau nofio yn gallu ailagor yng Nghymru. Rwyf wedi cael nifer o etholwyr sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi ynglŷn ag effaith niweidiol cau eu campfa leol a'u pwll nofio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol, ac, wrth gwrs, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod hyn wirioneddol yn rhywbeth sy'n effeithio ar bobl o bob oedran, nid pobl ifanc yn unig. Rwyf wedi cael myfyrwyr, wrth gwrs, yn byw ar eu pen eu hunain, hyfforddwyr ffitrwydd sydd heb incwm, a chleifion cardiaidd nad ydyn nhw wedi gallu gwneud eu hymarferion adfer, sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae'r dystiolaeth yr wyf i wedi'i gweld, Trefnydd, yn awgrymu bod y risgiau o niwed drwy haint sy'n gysylltiedig â champfeydd a phyllau nofio yn isel iawn, a bod canlyniadau peidio â gwneud ymarfer corff digonol, fel gordewdra, yn sylweddol iawn. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddoeth cael datganiad ynglŷn ag amserlen ar gyfer ailagor campfeydd a phyllau nofio cyn gynted â phosibl.