Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 16 Mawrth 2021.
A gaf i ychwanegu fy nghefnogaeth i'r cais a gafodd ei wneud gan Darren Millar ynghylch datganiad ar wrthsemitiaeth yn ein prifysgolion? Byddwn i wedi gofyn hynny fy hun hefyd, ond mae gennyf i ddau gais arall, os caf i. Mae un i'r Gweinidog Addysg, yn gofyn am ddatganiad sy'n nodi rhai canllawiau i ysgolion ar graffiti ar waliau ysgolion, a pha mor gyflym y dylid ymdrin â hynny. Tynnwyd fy sylw at y ffaith bod arwydd 'Cofiwch Dryweryn' wedi bod yn Ysgol Bro Hyddgen yn Nyffryn Dyfi ers rhai misoedd bellach ac er bod hynny'n coffáu'n ddilys ddigwyddiad pwysig yn hanes Cymru, rydym ni i gyd yn gwybod ei fod wedi dod yn gysylltiedig â mudiad gwleidyddol penodol nawr, ac felly fe fyddwn i'n dweud ei bod yn amhriodol fod ysgol yn ymwneud â hynny.
Ac yna, yn olaf, a gaf i ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Amgylchedd? Rwy'n ailadrodd yr alwad arni i gynghori'r Aelodau ar unrhyw newidiadau i ganllawiau sy'n helpu cyrff cyhoeddus i gydbwyso blaenoriaethau sy'n cystadlu pan fydd yn rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau sy'n deillio o benderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru. Trefnydd, fe fyddwch chi'n gwybod eich hun am y cyfyng-gyngor y mae fy etholwyr i ym Mayals yn sicr wedi bod yn ei wynebu wrth ddewis rhwng llwybr teithio llesol a thorri coed i lawr. Ond, hyd yn oed pan fydd brwdfrydedd dros lwybr teithio llesol, sut mae sicrhau nad yw bywyd gwyllt, cynefin a bioamrywiaeth yn cael eu sathru yn y broses o greu llwybr teithio llesol? Mae'n debyg y byddwch chi'n ymwybodol o hyn oherwydd adran Clun yng Ngŵyr. Mae'n fy nharo i braidd yn rhyfedd fod gennym bolisi sydd â'r bwriad o wella iechyd a lleihau llygredd, ond mae'r modd o weithredu hynny yn golygu dinistrio cynefin lleol o bwysigrwydd sylweddol. Felly, tybed a oes modd gofyn am ddatganiad ynghylch pa ganllawiau sydd ar gael ar hyn o bryd i helpu gyda'r penderfyniad hwnnw, a pha atebion sydd ar gael i etholwyr sy'n credu na chafodd y prosesau ymgynghori eu dilyn yn ddigonol. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau'n cytuno â mi pan ddywedaf nad yw adolygiad barnwrol yn ateb o gwbl i'r etholwr cyffredin, oherwydd cost hyn. Diolch.