Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 17 Mawrth 2021.
Faint ohonom sydd wedi cofio dros y flwyddyn ddiwethaf pa mor bwysig yw dweud 'diolch' wrth y rhai sy'n gweithio mor anhunanol ar draws y sectorau iechyd a gofal i ofalu amdanom? Faint ohonom sydd wedi meddwl a sylweddoli nad digwydd ohono'i un y mae gofal? Rydym yn derbyn gofal oherwydd bod pobl—ein ffrindiau a'n cymdogion, pobl y cawsom ein magu gyda hwy, rhai yr aethom i'r ysgol gyda hwy—wedi penderfynu ymrwymo eu bywydau proffesiynol i ofalu fel nyrsys ac fel ffisiotherapyddion a gofalwyr yn y cartref a meddygon a therapyddion lleferydd ac iaith, ac mae'n rhestr mor hir, ni allwn byth mo'u henwi i gyd; llu o broffesiynau iechyd.
Ond mae'n rhaid i ddweud 'diolch' fod yn gymaint mwy na gweithred wrth fynd heibio. Ac felly, rydym yma heddiw yn sôn am rywbeth a ddylai fod yn cael ei dderbyn yn ganiataol. Dylai fod yn digwydd yn gyson: tâl ariannol teg am yr ymrwymiad, y gwaith caled, yr ymroddiad, y llafur, ac fel y dywedais, yr anhunanoldeb llwyr a ddangoswyd gan weithwyr iechyd a gofal ar unrhyw adeg, heb sôn am y flwyddyn COVID eithriadol hon a aeth heibio.
A gaf fi ddweud yma pa mor falch yr oeddwn o glywed y cyhoeddiadau hynod gyd-ddigwyddiadol yn gynharach heddiw gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag (a), sicrhau bod arian ar gael i gefnogi parhad talu'r cyflog byw gwirioneddol ar draws y GIG—unwaith eto, rhywbeth a ddylai fod yn digwydd yn ddigwestiwn; a (b), ariannu bonws i'r holl staff GIG a gofal, taliad net o tua £500 i'r rhan fwyaf, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu unrhyw wobr a ddangosir am eu gwaith. Maent yn haeddu pob ceiniog. Ond gadewch imi fod yn glir y dylai tâl ariannol teg gael ei ymgorffori'n gadarn yn niwylliant ein gwasanaethau iechyd a gofal bob amser, ac na ddylent gael eu setlo drwy fonws untro. Ac er yn ddiolchgar am y cyhoeddiad, bydd blas braidd yn chwerw wedi'i adael ar ôl gan y ffaith bod hyn wedi'i wneud, a bod yn onest, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi'i gwthio i gornel—gan gynnig gan Blaid Cymru yn y Senedd, fel y mae'n digwydd—ac felly'n teimlo rheidrwydd i wneud rhywbeth.