9. Dadl Plaid Cymru: Adolygiad o Gyflogau'r GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 17 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:52, 17 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant Llywodraeth Cymru yn enw Rebecca Evans. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ddewis y pwnc hwn ar gyfer dadl fer heddiw, gan ei bod yn caniatáu i mi ailadrodd barn glir Llywodraeth Cymru ar gyflogau'r GIG, a'r gwrthgyferbyniad uniongyrchol rhyngom ni a Llywodraeth Geidwadol y DU.

Fel y mae llawer ohonoch wedi sôn, rydym yn dweud yn rheolaidd gymaint y gwerthfawrogwn staff ein GIG am eu hymroddiad a'u tosturi, yn enwedig yn wyneb y feirws ofnadwy a diymwared hwn. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ddi-baid. Mae'r pandemig yn parhau i effeithio'n sylweddol ar gleifion a staff. Rwy'n cydnabod y gofynion corfforol ac emosiynol anhygoel a wynebir gan ein gweithlu o ganlyniad. Maent wedi wynebu niwed er mwyn cadw pob un ohonom yn ddiogel. Fe wnaethom beintio enfysau, fe wnaethom ddiolch ac fe wnaethom guro dwylo yn y strydoedd. Ac ymateb Llywodraeth Geidwadol y DU i gydnabod y gwasanaeth eithriadol hwnnw yw ymgais i gyfyngu codiad cyflog y GIG i 1 y cant. Mae'n anghredadwy. Gall Llywodraeth Geidwadol y DU ddod o hyd i arian trethdalwyr i'w chwistrellu dros ymgynghorwyr preifat ar brofi ac olrhain yn Lloegr; y cwestiynau heb eu hateb ar gyfarpar diogelu personol a'r llwybr i'r breintiedig; tîm o ffotograffwyr ar gyfer y Prif Weinidog; ac ystafell newydd ar gyfer briffio'r cyfryngau rydym eisoes wedi clywed amdani heddiw. Ac eto, o ran y GIG, mae'r coffrau'n wag. Ni ddylai neb fychanu'r ymdeimlad o ddicter a brad y mae staff y GIG yn ei deimlo. Mae'n gic yn y dannedd gan y Torïaid. Rwy'n deall cryfder teimladau staff a'u cynrychiolwyr yn yr undebau llafur. Cyfarfûm ag undebau llafur, fel y gwnaf yn rheolaidd, ddydd Gwener ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth y DU, a chlywais drosof fy hun pa mor siomedig a chlwyfedig y teimlant.

Rwyf wedi bod yn glir iawn ers y cyhoeddiad hwnnw gan y Torïaid nad yw'r Llywodraeth hon o dan arweiniad Llafur Cymru wedi gosod cap mympwyol ar gyflogau'r GIG. Ysgrifennais at gyrff adolygu cyflogau'r GIG ar 11 Mawrth i gadarnhau nad ydym wedi gosod cap ar gyflogau'r GIG. Rydym am gael cyngor annibynnol gan gyrff adolygu cyflogau ar godiad teg a fforddiadwy i weithwyr y GIG yma yng Nghymru, yn unol â'r cylch gorchwyl a osodais ym mis Ionawr. Mae'r cyrff adolygu cyflogau i fod i adrodd ym mis Mai, a bydd yn rhaid i staff y GIG a'r cyhoedd benderfynu a ydynt am gymeradwyo dirmyg y Torïaid tuag at ein GIG yn y blwch pleidleisio. Ni allai'r gwrthgyferbyniad â blaenoriaethau a gweithredoedd Llafur Cymru fod yn gliriach. A gwneir y taliadau bonws a gyhoeddwyd heddiw yn ychwanegol at ddyfarniad cyflog teg, nid i gymryd lle hynny. Roeddwn yn falch o gadarnhau'r taliad hwn heddiw ar ôl wythnosau o waith gyda'n rhanddeiliaid, ac mae'n amlwg yn chwerthinllyd i awgrymu bod y bonws rywsut yn ymateb munud olaf i'r cynnig hwn.

Rwyf yr un mor falch bod GIG Cymru yn gyflogwr cyflog byw, ac amlinellodd Dawn Bowden ei rôl fel swyddog undeb llafur yn negodi hynny gyda Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru, ac yn ddiweddar rwyf wedi penderfynu gweithredu'r gyfradd cyflog byw gwirioneddol newydd o £9.50 yr awr ar gyfer staff ein GIG o 1 Ebrill. Mesur dros dro yw cyllid Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn wrth i ni aros am argymhellion y corff adolygu cyflogau newydd. Mae gennym ymrwymiad ers amser maith i'r cyflog byw gwirioneddol fel lleiafswm cyfradd gyflog ar gyfer ein gweithlu gofal cymdeithasol. Ddoe, nodais ein gwaith ar dalu am ofal a'n blaenoriaeth i godi cyflogau staff gofal cymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwelliannau hirdymor i'r sector sy'n cynnwys datblygiad cyflog ac mae hwnnw'n mynd y tu hwnt i'r lleiafswm hwn.

Mae gofal cymdeithasol yn gymhleth, gyda dros 1,000 o gyflogwyr a gwasanaethau ar draws y sector preifat, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus. Mae cyflwyno gwelliannau hirdymor yn golygu bod angen i ni weithio mewn partneriaeth, a dyna pam y gwnaethom sefydlu fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Mae cyflog yn ystyriaeth allweddol ar gyfer gofal cymdeithasol, ond felly hefyd y mae trefniadau, telerau ac amodau cytundebol da yn y broses o greu sector sefydlog lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Nid ydym am weld cyflwyno cyflog gwell a gaiff ei wrthbwyso wedyn gan delerau ac amodau gwaeth. Comisiynir y rhan fwyaf o'r gofal a'r cymorth, ac mae'r trefniadau presennol yn tueddu i arwain at gyflogau isel, lleiafswm cyflog ar gyfer ein gweithlu rheng flaen. Dyna pam ein bod yn cynnig dull gweithredu newydd yn ein Papur Gwyn, 'Ailgydbwyso gofal a chymorth'. Ac ynddo, rydym yn nodi sut y bydd fframwaith cenedlaethol newydd yn sicrhau y dylai ansawdd a gwerth, yn hytrach na phris, ddod yn benderfynyddion llwyddiant allweddol mewn marchnad sy'n darparu gofal.

Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw ac anfon neges glir i ddangos faint rydym yn gwerthfawrogi ein staff, a neges glir i'r Blaid Geidwadol hefyd.