9. Dadl Plaid Cymru: Adolygiad o Gyflogau'r GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 17 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:59, 17 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Gadewch i ni fod yn glir: nid bonws COVID-19 untro yw'r codiad cyflog mawr a sylweddol y buom yn galw amdano ar gyfer ein staff nyrsio. Yr hyn rydym am ei gael gan Lywodraeth Cymru yw ymrwymiad i sicrhau cyflog teg am nyrsio, cyflog teg sy'n mynd i'r afael â'r 1,600+ o swyddi gwag yng Nghymru, cyflog teg sy'n annog nyrsys i aros yn y proffesiwn a chyflog teg sy'n sicrhau y darperir gofal rhagorol i gleifion.