Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 17 Mawrth 2021.
Yma yng Nghymru, rydym wedi cael rhai o'r cyfnodau hwyaf yn y byd o gyfyngiadau ar ein gweithgaredd cymdeithasol, felly nid yw'n syndod ein bod wedi profi rhai o'r effeithiau mwyaf. At ei gilydd, rydym yn anifeiliaid cymdeithasol, ac mae treulio amser gyda ffrindiau a theulu yn rhan hanfodol o'n llesiant emosiynol a meddyliol. Mae gorfod torri'r holl gyswllt wyneb yn wyneb am 212 diwrnod wedi gweld niferoedd llawer mwy o bobl yn dioddef unigrwydd ac arwahanrwydd, ac mae'r rhai sy'n dioddef unigrwydd yn teimlo'n fwy ar wahân.
Mae atal ymweliadau â chartrefi gofal wedi golygu bod llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd, ac mae hyn wedi bod yn arbennig o anodd i gleifion dementia. Nid ydynt bob amser yn deall y rheswm dros y cyfyngiadau ac maent yn teimlo eu bod wedi eu hanghofio gan eu hanwyliaid. Mae hyn hefyd yn drawmatig i deuluoedd y rhai mewn gofal. Rhaid bod methu ymweld â'u hanwyliaid yn dorcalonnus, yn enwedig i'r rheini sy'n cael gofal lliniarol.
Nid yr henoed yn unig sydd wedi'u taro'n galed gan unigrwydd ac arwahanrwydd, maent wedi effeithio ar bobl ar draws y sbectrwm oedran, pobl o bob cefndir, a chyda llawer o bobl yn gweithio gartref neu ar ffyrlo, yn aml iawn, yr unig dro y gwelant fod dynol arall yw dros gyswllt fideo. Ond ni all cyfarfod Zoom cymryd lle rhyngweithio wyneb yn wyneb. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc—pobl ifanc sydd wedi gweld eu gallu i fynd allan a chwarae gyda'u ffrindiau wedi'i leihau, ond sydd hefyd wedi gweld eu haddysg a'u datblygiad wedi'u grebachu.
Yr hyn sydd wedi bod yn fwy niweidiol, fodd bynnag, yw'r dysgu wyneb yn wyneb ysbeidiol, yn ogystal â'r dull anghyson o weithredu ar draws yr ystodau oedran. Nid yw pobl yn deall pam y caiff eu brodyr a'u chwiorydd fynd i'r ysgol, ond bod yn rhaid iddynt hwy aros gartref. Dychwelodd rhai disgyblion ysgol i'r ystafell ddosbarth ychydig wythnosau'n ôl a dychwelodd mwy o garfannau yr wythnos hon, ond ni fydd eraill yn dychwelyd am fis arall. Mae plant wedi teimlo pryder ynglŷn â dychwelyd, ac mae rhieni'n dweud bod eu plentyn wedi datblygu problemau ymddygiad. Ac mae'n faich ofnadwy i bobl ifanc ei ysgwyddo. Mae pobl ifanc yn poeni am eu haddysg, am eu dyfodol, ac mae llawer o rieni wedi dweud eu bod wedi gweld eu plentyn yn crio oherwydd eu bod yn poeni ynglŷn â throsglwyddo'r feirws i'w rhieni neu neiniau a theidiau. Rwy'n ei chael yn dorcalonnus fod yn rhaid i blant ymdopi â phethau o'r fath a bod yn rhaid iddynt boeni am eu dyfodol, yn hytrach na gallu mwynhau'r presennol.
Ac eto, nid hwy yw'r unig rai sy'n poeni am y dyfodol. Felly, er mwyn ymladd y clefyd, fe wnaethom gau rhannau helaeth o'r economi, cau sectorau cyfan, gan arwain at lawer o bobl yn colli eu gwaith, a diolch byth, cawsom y cynllun cadw swyddi a welodd filiynau o bobl yn cael eu rhoi ar ffyrlo yn hytrach na'u diswyddo. Ond mae'r bobl hynny'n poeni a fydd y busnes y maent yn gweithio iddo yn goroesi ar ôl pandemig. Mae pryder am sefydlogrwydd economaidd yn y dyfodol wedi arwain at salwch meddwl i lawer o bobl. Arweiniodd llawer gormod o nosweithiau di-gwsg at bryderon ynglŷn â darparu bwyd a lloches iddynt hwy a'u teuluoedd.
Fodd bynnag, nid yw trawma meddyliol wedi'i gyfyngu i'r rhai sydd allan o waith yn unig. Mae gweithio yn ystod y pandemig wedi bod yn straen i lawer, yn enwedig y rhai na allent gadw pellter cymdeithasol. Mae swyddogion yr heddlu, swyddogion carchardai, diffoddwyr tân a phawb sydd ar y rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi rhoi eu hunain mewn perygl o ddal clefyd marwol er mwyn ein cadw ni i gyd yn ddiogel. Ac mae'r rhai sy'n gweithio yn y GIG a chartrefi gofal hefyd wedi gorfod ymdopi â gweld eu cleifion, a'u cydweithwyr weithiau, yn colli eu bywydau i COVID-19. Felly, rydym wedi gweld hanesion dirdynnol am feddygon a nyrsys yn dweud bod nifer y marwolaethau wedi golygu bod gwaith yn ystod y pandemig yn debyg i fod ar faes y gad. Bu'n rhaid i nyrsys weithio am oriau mewn cyfarpar diogelu personol poenus, gan wneud tasgau corfforol heriol, fel troi cleifion COVID fel nad oeddent yn boddi yn yr hylif ar eu hysgyfaint. Yna bu'n rhaid iddynt eistedd gyda chleifion wrth iddynt farw, fel na fyddent yn wynebu eu diwedd ar eu pen eu hunain. Mae gweld pethau mor ofnadwy wedi gadael ei ôl, gyda staff yn methu cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i wella gan nad oes neb i gymryd eu lle.
Diolch byth, nid oes raid i'r rhan fwyaf o bobl brofi'r lefel honno o drawma meddyliol, ond ychydig iawn sydd wedi dod drwy'r 12 mis diwethaf heb unrhyw niwed. Efallai fod COVID-19 wedi dechrau fel yr her iechyd cyhoeddus fwyaf mewn mwy na chanrif, ond erbyn hyn dyma'r her iechyd meddwl fwyaf inni ei hwynebu erioed hefyd. Felly, beth y gallwn ei wneud yn ei gylch? Rwy'n croesawu'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gynnig therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein i bawb yng Nghymru dros 16 oed, ond mae'n rhaid inni wneud cymaint mwy. Mae angen inni gyflogi byddin o therapyddion a chwnselwyr. Mae'n rhaid i ni roi cwnselwyr ym mhob ysgol, annog pob cyflogwr i gynnig cymorth emosiynol ac iechyd meddwl i'w staff. Rhaid inni sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael pa gymorth bynnag sydd ei angen arnynt.
Mae angen inni annog landlordiaid i ganiatáu i denantiaid gadw eu hanifeiliaid anwes. Efallai fod hyn i'w weld yn gais rhyfedd, ond nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod perchnogaeth ar anifeiliaid anwes wedi codi i'r entrychion yn ystod y cyfyngiadau symud. Gall anifeiliaid anwes ein helpu i ymdopi ag unigrwydd ac arwahanrwydd, a gall cael ci sbarduno pobl i adael y soffa a mynd allan am dro, gan helpu i hybu iechyd meddwl. Yn anffodus, mae llawer o landlordiaid, ac yn enwedig landlordiaid cymdeithasol, yn atal perchnogaeth ar anifeiliaid anwes. Rwyf wedi bod yn ymdrin â Tai Tarian, a wrthododd ganiatáu i un o fy etholwyr gael ci. Diolch byth, clywais neithiwr ei bod wedi cael ci cymorth emosiynol, yn dilyn pwysau gan ei meddyg teulu. Ond ni ddylai pobl orfod brwydro am gymorth emosiynol. Rhaid inni fod yn hyblyg a darparu pa gymorth bynnag sydd ei angen. Nid yw Tai Tarian yn eithriad, ond mae'n braf nad yw pob landlord cymdeithasol yn negyddol tuag at berchnogaeth ar anifeiliaid anwes, fel yn achos Tai Hafod, sy'n edrych ar faint eich preswylfa a bydd hynny'n pennu maint y ci y gallwch ei gael.
Ddoe, galwodd Coleg Brenhinol y Meddygon ar Lywodraeth Cymru i gyflawni eu hymrwymiad i wneud iechyd a llesiant staff yn flaenoriaeth genedlaethol, ac rwy'n cytuno â hyn. Fe wnaeth staff iechyd a gofal ofalu amdanom ni, felly mae'n rhaid i ni ofalu am eu llesiant meddyliol hwy. Oni bai ein bod yn mynd i'r afael â niwed emosiynol a meddyliol y pandemig coronafeirws yn uniongyrchol ac ar unwaith, byddwn yn gweld llawer mwy nag un o bob pedwar ohonom yn dioddef o salwch meddwl. Diolch yn fawr iawn.