Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 17 Mawrth 2021.
Mae dros £14 miliwn wedi'i ddyrannu i 870 o fusnesau yn y sectorau cyllid a gwasanaethau proffesiynol o'r gronfa cadernid economaidd yn 2020-21. Rydym hefyd yn buddsoddi £270 miliwn ym Manc Datblygu Cymru i gefnogi busnesau, a byddwn yn parhau i weithio gyda phob sector i ystyried pa gymorth sydd ei angen yn 2021-22.