Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 17 Mawrth 2021.
Cyfeiriaf at ddiddymu’n raddol, ond yn wahanol i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, nid oes gennym dapr yng Nghymru. Pam fod y Gweinidog wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, a pham ei bod yn meddwl ei bod yn iawn y dylai pobl sy'n prynu tai gwerth rhwng £180,000 a £250,000 yng Nghymru dalu 3.5 y cant ar y rhan honno o'r trafodiad, pan fyddai'r un pryniannau ar gyfradd sero yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon?