Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 17 Mawrth 2021.
Weinidog, rwy'n siŵr y bydd yn rhyddhad ichi glywed nad wyf yn ymgeisydd yn yr etholiad, felly nid wyf am ddarllen fy anerchiad etholiadol; af ymlaen at gwestiwn priodol. Pan roddir symiau mawr o arian at ddefnydd y cyhoedd, credaf ein bod angen y gwerth mwyaf am y bunt Gymreig. Ac yma, rwy'n canmol cyngor RhCT am y ffordd y maent wedi defnyddio peth o'r arian hwn i hyrwyddo, drwy raglen yr ysgolion, cynefin ecolegol, y defnydd dychmygus o dechnolegau, cysylltedd â blaenoriaethau eraill fel lleoliadau gofal plant Cymraeg eu hiaith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â’r defnydd deublyg o gyfleusterau chwaraeon fel eu bod ar gael i'r gymuned hefyd. Ac mae angen inni ddefnyddio ein gwariant cyhoeddus yn y modd hwn, er mwyn sicrhau ein bod yn cael y gwerth mwyaf posibl amdano.