Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 17 Mawrth 2021.
Wel, heb wybod mwy am Purple Shoots na’r hyn rydych wedi'i ddisgrifio, byddwn yn awgrymu mai llwybr posibl i’w ystyried fyddai cronfa buddsoddi hyblyg Cymru, sydd wedi'i chynllunio i fuddsoddi a chynhyrchu arian newydd, gan gynnwys buddsoddiadau mewn cyllid a gwasanaethau proffesiynol. Ac mae'r gronfa honno wedi'i hymestyn yn ei gwerth i £0.5 biliwn, gyda chwistrelliad pellach o £270 miliwn, gan alluogi'r gronfa i gynnal buddsoddiad dros y 10 mlynedd nesaf. Felly, yn y lle cyntaf, byddwn yn awgrymu y dylai Purple Shoots archwilio hynny. Fodd bynnag, pe baech yn rhannu manylion cyswllt y sefydliad gyda mi, byddwn yn fwy na pharod i ofyn i gynrychiolydd o Busnes Cymru archwilio eu hanghenion yn fwy manwl.