Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 17 Mawrth 2021.
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cael cynnydd o £12.8 miliwn yn ei setliad, y cynnydd mwyaf yng nghyllid unrhyw awdurdod lleol, sef 5.6 y cant. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi £1.5 miliwn heddiw er mwyn bwrw ymlaen â buddsoddiad ar y cyd o £11.9 miliwn ar gyfer gwaith adnewyddu sylweddol ar bont gludo Casnewydd. [Chwerthin.] Rwy'n gyffrous iawn ynglŷn â hynny, fel y gallwch weld, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn cael trafferth ei ddweud.