1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 17 Mawrth 2021.
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa lefelu? OQ56458
Yr wythnos diwethaf, cyfarfu cyd-Weinidogion a minnau ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol lle gwnaethant ailadrodd eu bwriad i weithredu cronfa gystadleuol o San Steffan, yn groes i’r hyn a gyhoeddwyd yn yr adolygiad o wariant ym mis Tachwedd.
Onid yw’n rhyfeddol? Mae’r gronfa codi’r gwastad yn sarhad uniongyrchol i setliad datganoli Cymru, Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, ac mae'n mynd heibio i'n sefydliadau democrataidd. Nid yn unig y mae'r Senedd wedi'i heithrio o benderfyniadau a fydd yn cael eu gwneud yn Whitehall, ond mae'r gronfa'n clymu llwyddiant prosiectau cymunedol â sylwadau a wnaed gan Aelodau Seneddol yn San Steffan, hyd yn oed wrth i Lywodraeth y DU dorri un rhan o bump oddi ar nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru. Does bosibl na ddylid gwneud penderfyniadau i Gymru yng Nghymru. Felly, o gofio y bydd Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Lloegr yn goruchwylio'r cynllun, pa sicrwydd a gawsoch y byddant yn gallu asesu cynigion Cymru yn gywir, o ystyried eu diffyg arbenigedd llwyr mewn meysydd datganoledig?
Wel, nid oes gennyf hyder o gwbl y bydd yr adran Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth y DU yn gwneud gwaith da o hyn. Rwy'n ffurfio'r farn honno oherwydd eu hanes yn y gorffennol. Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Llywodraeth y DU wedi rhyddhau ei adroddiad ar y gronfa drefi yn Lloegr ac maent wedi canfod diffyg tryloywder a chyhuddiadau o ragfarn wleidyddol yn y broses ddethol, diffyg ymgysylltiad cyson a thryloyw â rhanddeiliaid, diffyg capasiti ar lefel leol i weithredu'r cynigion hynny’n effeithiol ynghyd a risg bosibl i enw da'r gwasanaeth sifil am fod yn onest ac yn ddiduedd. O dan unrhyw Lywodraeth arall, byddai hynny'n gwbl ysgytwol, ond mae'n ymddangos bod hyn yn ymddygiad arferol a derbyniol. Felly, nid oes gennyf ffydd y bydd Llywodraeth y DU yn gallu cyflawni dros Gymru.
Rydym newydd weld meini prawf y gronfa codi’r gwastad ac mae gennym bryderon gwirioneddol ynglŷn â'r methodolegau dethol ar gyfer y gronfa. Mae'r dewis o ddangosyddion yn hepgor pethau sy'n bwysig i ni yma yng Nghymru. Felly, nid ydynt yn edrych ar fynegeion amddifadedd er enghraifft, ac nid oes ganddynt ddiddordeb mewn edrych ar ddata trafnidiaeth. Bydd yr holl bethau hynny'n rhoi Cymru o dan anfantais pan fyddwn yn cael ein cymharu â rhanbarthau eraill mewn perthynas â'r cynigion sy'n cael eu gwneud i'r gronfa honno. Felly, y cyfan sydd gennym ar hyn o bryd, yn anffodus, yw rhesymau dros bryderu, yn hytrach na rhesymau dros fod yn optimistaidd.