Newidiadau i Bolisi Trethiant

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 17 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:11, 17 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Nododd Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb derfynol y bydd yn neilltuo £200 miliwn arall i fusnesau o'i chronfeydd wrth gefn ei hun. Unwaith eto, mae hyn yn ychwanegol at y gwariant ychwanegol blaenorol ar gyfer Cymru'n unig a wnaed o'i chyllideb ei hun, ac mae'n gadarnhad pellach mai Cymru sy'n darparu'r pecyn gorau o gymorth busnes yn y DU gyfan. Pa sylwadau felly y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i'r Canghellor Torïaidd yn San Steffan i alluogi Llywodraeth Cymru i gael hyblygrwydd i barhau i gefnogi busnesau Cymru yn y dyfodol?