Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 17 Mawrth 2021.
Er bod y refeniw ychwanegol o £735 miliwn i'w groesawu, mae'r mwyafrif yn gyllid COVID sy'n gyfyngedig o ran amser ac nid yw'n gwneud iawn am ddegawd o gyni. Mewn cyferbyniad llwyr â'r hwb cyfalaf o £224.5 miliwn a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar, ac a fydd o fudd i bob rhan o Gymru gan gynnwys Caerffili, methodd Llywodraeth y DU ddarparu unrhyw gyfalaf ychwanegol.