Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 17 Mawrth 2021.
Rydym yn gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd, sy'n aml yn cael eu hategu gan yr is-bwyllgorau gweinidogol rydym wedi'u sefydlu. Felly, mae rhai ohonynt yn is-bwyllgorau Cabinet ffurfiol ac mae eraill yn bwyllgorau nad ydynt wedi cael eu creu'n ffurfiol drwy'r Cabinet, ond sydd serch hynny'n gweithredu mewn ffordd bwysig. Un enghraifft fyddai'r gwaith rydym yn ei wneud yn y grŵp rhyng-weinidogol sy'n edrych ar y maes digidol a data—mae honno'n amlwg yn agenda draws-Lywodraethol, ac mae'n bwysig fod pob Gweinidog yn cyflwyno'r hyn sydd ei angen arnynt i ddatblygu hynny, er mwyn sicrhau bod Cymru'n rhoi ei hun ar y map fel cyrchfan ar gyfer sgiliau digidol, a hefyd i ddefnyddio'r holl fuddsoddiad rydym yn ei roi i'r maes digidol mewn ffordd sy'n trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus. Felly, credaf fod y strwythurau sydd gennym ar waith yn bwysig iawn, ac o safbwynt ariannol mae'n caniatáu imi sicrhau ein bod yn creu'r cyfleoedd ariannu cywir.
O fewn y maes digidol, rydym wedi gweithio ar draws y Llywodraeth i gyfuno cyllidebau o wahanol rannau o'r Llywodraeth er mwyn sicrhau bod pob Gweinidog yn gweithio i gyflawni'r agenda bwysig honno. Mae gennym waith tebyg yn mynd rhagddo yn awr yn yr adran tir a ddatblygwyd yn ddiweddar—dywedaf 'yn ddiweddar'; mae'n flwyddyn bellach. Felly, mae hwnnw'n rhywbeth rwy'n ei gadeirio, ond mae'n edrych ar yr holl dir a ddelir gan Weinidogion mewn gwahanol bortffolios ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf arno at y dibenion a rennir gennym. Mae gennym ffocws arbennig o gryf ar hyn o bryd ar ryddhau tir ar gyfer tai cymdeithasol, felly rydym yn edrych yn benodol ar dir yn adran yr economi, pa dir yno sy'n addas ar gyfer tai cymdeithasol, a sut y gallwn fynd ati i ryddhau'r tir hwnnw ac adeiladu arno.
Felly, mae yna ffyrdd rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth mewn nifer o feysydd. Dyna ddau faes, byddai datgarboneiddio yn un arall, ac mae'r gwaith rydym yn ei wneud ar draws y Llywodraeth ar gymorth i ynni adnewyddadwy hefyd yn rhywbeth sy'n elwa'n wirioneddol o'r strwythur rydym wedi'i roi ar waith i alluogi'r trafodaethau traws-weinidogol hynny, yn ogystal â gwaith ar y cyd mewn perthynas â'r gyllideb.