Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 17 Mawrth 2021.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, yn ystod y pandemig a chyn hynny, gwyddom fod gwasanaethau iechyd meddwl dan bwysau a'u bod yn aml wedi cael eu hystyried yn wasanaethau sinderela yn y gorffennol, ond gwn fod elfennau o hynny wedi newid, fel rydych wedi dangos yn eich ateb imi heddiw. Ond rwyf wedi gwneud llawer gydag anhwylderau bwyta dros y blynyddoedd, ac yn amlwg bydd angen buddsoddiad sylweddol ar argymhellion yr adolygiad gwasanaeth, ac rwyf hefyd wedi bod yn gwneud gwaith ar iechyd meddwl mamau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd angen buddsoddiad sylweddol ar rai o'r newidiadau yno. Beth y byddech yn ei ddweud wrth Lywodraeth yn y dyfodol ynglŷn â dyrannu arian ar gyfer y meysydd datblygu pwysig hyn?