Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 17 Mawrth 2021.
Weinidog, rwy'n falch o glywed eich bod chi wedi bod yn rhoi diolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser a'u sgiliau i fod yn llywodraethwyr yn ein hysgolion, ac mae eu swyddi ar fin dod yn fwy beichus o dan y cwricwlwm newydd, a hyd yn oed yn fwy tebyg i roles ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr anweithredol elusennau neu fusnesau. Yn sicr, bydd yn rhaid i'w perthynas gyda chymunedau lleol ddod yn fwy agored hefyd oherwydd y cwricwlwm. Sut ydych chi'n sicrhau y bydd llywodraethwyr yn cael yr holl hyfforddiant sydd ei angen arnynt, a pha fesurau ydych chi'n eu cynnig i helpu dysgwyr a'u teuluoedd i ddwyn llywodraethwyr i gyfrif?