2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 17 Mawrth 2021.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi llesiant meddyliol athrawon? OQ56460
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cymorth ar gael i athrawon ledled Cymru yn ystod y pandemig hwn. Mae hyn yn cynnwys ariannu pecyn wedi'i deilwra o wasanaethau cymorth iechyd meddwl a llesiant i athrawon a staff cymorth, a darparu cyllid ychwanegol i gynyddu capasiti mewn ysgolion ledled Cymru.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'r sector addysg wedi wynebu'r flwyddyn lle gwelwyd mwy o darfu arno na'r un flwyddyn arall yn ein hoes ni, a dro ar ôl tro bu'n ofynnol i athrawon ac uwch dimau arwain drawsnewid yn llwyr y modd y maent yn gweithredu: dysgu ar-lein, gwersi rhithwir, swigod grŵp blwyddyn, darpariaethau gweithwyr allweddol, graddio arholiadau, profi torfol, monitro llesiant ac addasu adeiladau. Maent wedi gwneud popeth y maent wedi'i wneud, ac maent wedi gwneud hynny a mwy ar ben eu hamgylchiadau personol. Mae rhai sydd wedi bod yn gwneud dosbarthiadau ar-lein hefyd wedi bod yn darparu addysg i'w plant eu hunain gartref. Mae'r gweithlu addysg wedi bod yn rhagorol, ond ni allwn anghofio'r effaith ar eu hiechyd a'u llesiant eu hunain. Pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod athrawon a staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu swyddi dros y misoedd nesaf, a pha gymorth sydd ar gael iddynt i sicrhau bod eu llesiant meddyliol eu hunain yn cael blaenoriaeth?
Diolch, Jayne, am gydnabod ymdrech aruthrol y gweithlu addysg drwy gydol y pandemig. Maent wedi dangos arloesedd a chadernid gwirioneddol mewn cyfnod anodd, ac mae'n bwysig inni gydnabod bod angen inni eu cefnogi yn eu hiechyd meddwl a'u llesiant. Dyna pam ein bod wedi ymgysylltu â Cymorth Addysg, sefydliad elusennol sydd ag arbenigedd mewn cefnogi llesiant athrawon i gyflwyno rhaglen gymorth yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae hynny wedi cynnwys hwyluso cymorth rhwng cymheiriaid ar-lein i benaethiaid, cymorth un-i-un i benaethiaid a ddarperir gan gwnselwyr, sefydlu gwasanaeth ysgolion a llesiant pwrpasol, modiwlau dysgu ar-lein am ddim i'r staff eu hunain. Ac yn wir, heno, cynhelir gweminar ar-lein y mae dros 400 o staff addysg wedi cofrestru ar ei chyfer i baratoi ar gyfer sicrhau y gallant fwynhau eu gwyliau Pasg. Hoffwn ganmol gwaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol hefyd sy'n cynnal sesiynau wythnosol sy'n caniatáu i grwpiau o ddau i dri phennaeth ddarparu cefnogaeth rhwng cymheiriaid, ac i drafod yr heriau y maent yn eu hwynebu mewn amgylchedd diogel.
Mae Jayne Bryant wedi nodi mater pwysig iawn. Weinidog, ym mis Tachwedd, cyhoeddodd academyddion ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe ganlyniadau arolwg ar y cyd. Buont yn siarad â thua 13,000 o bobl; roedd gan hanner y rheini rywfaint o broblemau iechyd meddwl, a dywedodd 20 y cant eu bod wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol i bobl iau a menywod ac wrth gwrs, mae'r ddau grŵp i'w gweld yn ein sector ysgolion cynradd lle mae nifer uwch o fenywod yn gweithio fel athrawon. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'r system addysg, gyda'r undebau llafur ynglŷn â ffyrdd y gellir mynd i'r afael â'r materion iechyd meddwl hyn yn y dyfodol? O ran recriwtio, a wnaed unrhyw asesiad o'r effaith bosibl ar recriwtio, oherwydd wrth inni ddod allan o'r pandemig, mae'n fy nharo i mai'r peth olaf rydym ei eisiau yw effaith negyddol ar recriwtio i'n hysgolion cynradd?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Nick. Mae fy swyddogion yn cael sgyrsiau wythnosol gyda'r undebau llafur i drafod ystod eang o faterion ac yn amlwg, mae llesiant staff ysgol a staff cymorth yn codi'n aml. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y gwasanaethau y mae'r elusen Cymorth Addysg wedi gallu eu rhoi ar waith eleni, a byddwn yn parhau i ystyried beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi'r proffesiwn drwy gydol y pandemig, a'r cyfnod sy'n dilyn.
O ran recriwtio, yr hyn y gallaf ei ddweud, Nick, yw ein bod wedi gweld recriwtio cryf iawn eleni i'n rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon. Rwy'n credu bod y sbotolau sydd wedi bod ar bwysigrwydd addysg, a'r rôl hollbwysig y mae addysgwyr yn ei chwarae ym mywyd plant a phobl ifanc, ac yn cefnogi cymunedau yn wir, wedi ysbrydoli llawer iawn o bobl i feddwl am yrfa mewn addysgu, ac rwy'n falch iawn o weld hynny.