Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 17 Mawrth 2021.
Diolch, Paul. Mae'r fframwaith yn bendant yn rhoi lefel o sicrwydd y bydd unigolion yn cael eu trin yn deg. Ac rydym wedi dod i gytundeb â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyfathrebu â'u hysgolion unwaith eto a'i gwneud yn glir iawn i'r ysgolion yn eu hawdurdodau lleol mai dim ond yr asiantaethau sy'n ymddangos yn y fframwaith y dylai ysgolion eu defnyddio. Paul, rwy'n ymrwymo i ofyn i CLlLC roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi am y gwaith hwnnw pan fyddaf yn cyfarfod â hwy nesaf, ond mae gennym gytundeb gyda CLlLC y byddant yn pwysleisio pa mor bwysig yw gwneud hynny wrth eu hysgolion eu hunain.