Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 17 Mawrth 2021.
A gaf fi ddymuno'n dda i chi ar gyfer y dyfodol, Weinidog? Rydych wedi goroesi pum mlynedd ac wedi ffynnu, rwy'n credu, er i chi orfod dechrau o dan faich cymeradwyaeth gennyf fi—dyna fe, mae'n amlwg nad effeithiodd ar eich awdurdod na'ch perfformiad.
Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â phwynt Neil McEvoy yma, oherwydd credaf fod arnom angen dull hyblyg mewn rhai ffyrdd. Ac rwy'n pryderu'n arbennig am yr angen am gyfathrebu cymdeithasol effeithiol, yn enwedig i'r disgyblion sy'n drwm eu clyw a hefyd y disgyblion sydd ag anhawster dysgu iaith ac angen darllen wefusau o'r herwydd fel rhan o'u dull cyfathrebu. Felly, rwy'n gobeithio bod y canllawiau'n ddigon hyblyg i fynd i'r afael â'r problemau real iawn hyn sy'n effeithio ar leiafrif o'n disgyblion.