Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 17 Mawrth 2021.
Mae gan gyrff llywodraethu ran hanfodol i'w chwarae yn gwella perfformiad ysgolion. Mae awdurdodau lleol yn darparu cymorth uniongyrchol i lywodraethwyr drwy eu gwasanaethau cymorth i lywodraethwyr. O dan safonau'r Gymraeg, darperir yr holl wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yn ddwyieithog. Mae awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i'r un ddyletswydd o dan y safonau.