Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 17 Mawrth 2021.
Yr her fwyaf sy'n wynebu unrhyw Weinidog addysg yw sylweddoli nad oes modd i ewyllys un Gweinidog yn unig yrru'r gwaith o ddiwygio a thrawsnewid addysg. Rhaid ei wneud mewn cydweithrediad â'r sector. Mae cydadeiladu ein cenhadaeth genedlaethol a'n cwricwlwm newydd wedi canolbwyntio ar feithrin y cysylltiadau cryf hynny. Credaf y bydd yn bwysig iawn i unrhyw Weinidog addysg newydd barhau i weithio yn yr ysbryd hwnnw a pheidio â gorchymyn o'r canol.