Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 17 Mawrth 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Un o'r materion sy'n pryderu'r mwyafrif o athrawon ydy'r baich gwaith maen nhw'n gorfod delio ag o ar ben y gwaith maen nhw wedi'u hyfforddi i'w wneud, sef addysgu ac arwain addysgu. Yn ôl rhai, mae'r baich gwaith ychwanegol yma, y biwrocratiaeth dyddiol, wedi gwaethygu dros y bum mlynedd diwethaf. Beth ydy'ch ymateb chi i'r honiad hwnnw?