Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 17 Mawrth 2021.
Mae ein canllawiau gweithredol yn nodi y dylai dysgwyr ysgol uwchradd wisgo gorchuddion wyneb ym mhob rhan o adeilad yr ysgol os na ellir cadw pellter cymdeithasol, ac ar gludiant ysgol dynodedig. Mae hwn yn un o ystod o fesurau i gadw ysgolion mor ddiogel â phosibl i staff a dysgwyr.