Safonau Ysgolion

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 17 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:00, 17 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Angela. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £1,649,000 i awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ar gyfer recriwtio, adfer a chodi safonau, er mwyn cefnogi dysgwyr ar gamau hanfodol yn eu haddysg. Yn ddiweddar, cyhoeddais £72 miliwn ychwanegol i gefnogi dysgwyr, gan ddod â chyfanswm ein cymorth ar gyfer—roeddwn am ddefnyddio'r gair 'adfer', ond ar ôl yr hyn rwyf newydd ei ddweud, byddai hynny'n esgeulus—ein cynllun dysgu ar gyfer 2021 i £112 miliwn.