Cymorth i Athrawon

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 17 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:49, 17 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid a'n cyflogwyr i sicrhau bod cymorth ar gael i athrawon yn Sir Benfro a ledled Cymru yn wir yn ystod y pandemig. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys pecyn wedi'i deilwra o gymorth llesiant ac iechyd meddwl, a chyllid ychwanegol i greu capasiti o fewn gweithlu'r ysgol.