Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 17 Mawrth 2021.
Rhianon, rydych chi'n gywir—mae rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yn ddull partneriaeth ac ni fyddem wedi gallu gwireddu uchelgais y rhaglen heb y cydweithio a'r gweithio agos rhyngom ag awdurdodau addysg lleol. Fel y trafodwyd yn helaeth ddoe, ceir cronfa o arian gwerth biliynau o bunnoedd o fewn Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu hyd yn oed mwy o gyfleusterau gwych, boed ym mwrdeistref sirol Caerffili, neu yn unman arall yng Nghymru yn wir. Dyna sydd mor wych am raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain; mae ei heffaith wedi cyffwrdd â phob cwr o'n gwlad.