2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 17 Mawrth 2021.
6. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo llesiant disgyblion yn y cynlluniau dychwelyd i'r ysgol? OQ56453
Ar 15 Mawrth, cyhoeddwyd ein fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol. Mae'n gosod llesiant yn ganolog i ddysgu, a chyda chyllid o £2.8 miliwn i ddarparu cymorth llesiant i ddysgwyr yn y flwyddyn gyfredol, mae'n sicrhau bod dychwelyd at addysg yn union fel y dylai fod i'r dysgwyr hynny.
Diolch, Weinidog. Roeddwn wrth fy modd yn gweld y fframwaith yn cael ei gyhoeddi ddoe. A gobeithiaf siarad yn y datganiad yr wythnos nesaf a dweud rhai geiriau amdanoch bryd hynny.
Fel y gwyddoch, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sesiwn wych yn ddiweddar ar effaith COVID ar iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc, a hoffwn ddiolch i'r Athro Ann John, yr Athro Alka Ahuja, yr Athro Adrian Edwards a Dr David Tuthill o Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant am eu tystiolaeth rymus iawn. Cawsom neges glir iawn ynglŷn â pha mor hanfodol yw'r ffocws ar lesiant wrth ddychwelyd i'r ysgol, ond hefyd pa mor hanfodol yw rhoi gobaith i blant a phobl ifanc. Mae peth o'r naratif sydd i'w weld mewn trafodaethau cyhoeddus am sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu dychwelyd i'r ysgol wedi bod yn negyddol iawn. Mae ymadroddion fel 'cenhedlaeth COVID', a hyd yn oed ymadroddion fel 'dal i fyny' yn arwydd o golled, pan gredaf y dylem fod yn dathlu gwydnwch aruthrol plant a phobl ifanc, o ystyried yr hyn y maent wedi bod drwyddo drwy gydol y cyfnod hwn. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, Weinidog, ei bod yn gwbl gywir ein bod nid yn unig yn blaenoriaethu llesiant wrth i fwy a mwy o blant ddychwelyd i'r ysgol yn awr, ond hefyd ein bod yn gwrthod unrhyw ymgais i greu anobaith ac yn sicrhau ein bod yn dweud wrth ein plant a'n pobl ifanc, 'Fe wyddom beth rydych chi wedi bod drwyddo, a'n blaenoriaeth yn awr yw eich helpu i wella o hynny mewn ffordd gadarnhaol a gobeithiol'?
Diolch yn fawr iawn, Lynne. Rwyf innau hefyd wrth fy modd fod y fframwaith bellach wedi'i gyhoeddi ac y bydd yno i gefnogi ysgolion yn yr agwedd wirioneddol bwysig hon ar eu gwaith, oherwydd os meddyliwn am y tarfu ar addysg rydym i gyd wedi'i weld ac y mae ein plant a'n pobl ifanc wedi'i brofi, ni fyddwn yn gallu symud ymlaen o hynny oni bai ein bod yn mynd i'r afael â llesiant, oherwydd gwyddom na all dysgu ddigwydd heb hynny. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi na fydd cyfeirio cyson at fodel diffyg yn helpu neb. Yn wir, bydd yn ychwanegu pwysau ychwanegol ar y proffesiwn addysgu. Bydd yn ychwanegu pwysau ychwanegol ar ein plant a'n pobl ifanc. Felly, torrwyd ar draws eu dysgu, do, ond ni fyddant yn colli dysgu. Deallaf pam y mae rhieni'n pryderu, a deallaf pam y byddai plant a myfyrwyr hŷn yn pryderu. Ond fel rydym wedi dangos, gyda'r buddsoddiad rydym eisoes yn ei wneud, mae gennym system addysg ac addysgwyr proffesiynol sy'n barod i sicrhau y gallant symud ymlaen gyda hyder gwirioneddol drwy gamau nesaf eu haddysg. Ac os byddwn yn ymroi'n barhaus i fantra anobaith, fel rydych wedi'i ddisgrifio, fe wireddir y broffwydoliaeth ohoni ei hun, oherwydd mae plant yn tyfu i fod yr hyn a ddywedir wrthynt, ac felly mae angen inni newid y ddeialog a gweithio gyda'n haddysgwyr proffesiynol i helpu ein plant i symud ymlaen yn hyderus.
Cytunaf yn llwyr â'r hyn y mae Lynne Neagle wedi bod yn ei ddweud am bwysigrwydd canolbwyntio ar rymuso pobl ifanc a rhoi gobaith iddynt. Mae gan bobl ifanc—. Rwy'n ceisio ailgyflunio'r ffordd rwy'n mynd i eirio hyn, mewn gwirionedd, oherwydd roeddwn yn mynd i ddweud, 'Maent wedi colli cynifer o brofiadau.' Ond mewn gwirionedd, mae gan bobl ifanc gymaint o brofiadau y mae angen iddynt eu hadennill, felly, ar ôl y pandemig. Amharwyd ar gyfeillgarwch a phatrwm dyddiol. Mae llawer o bobl ifanc wedi bod yn teimlo unigrwydd ac arwahanrwydd. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pryd fydd y canllawiau ar y dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant ac iechyd meddwl yn cael eu gweithredu mewn ysgolion a phryd y bydd pobl ifanc yn gallu teimlo manteision hynny? Rwy'n pryderu'n arbennig am blant ifanc iawn—y rhai a ddylai fod wedi dechrau yn yr ysgol yn ystod y pandemig, ond oherwydd bod ganddynt rieni sy'n gwarchod eu hunain, efallai nad ydynt wedi gallu mynd i'r ysgol. Mae'r blynyddoedd hynny—y dosbarthiadau derbyn, y dosbarthiadau meithrin—mor sylfaenol bwysig i ffurfio cwlwm rhwng plant. Felly, pa gymorth y credwch y gellid ei ddarparu i ailsefydlu cwlwm rhwng plant ifanc? Ac a fydd cymorth arbennig, yn enwedig i blant nad ydynt wedi gweld eu ffrindiau ers cymaint o amser?
Diolch, Delyth. Credaf eich bod wedi taro ar un o'r agweddau ar y tarfu ar addysg sydd wedi effeithio'n wirioneddol ar blant a phobl ifanc, sef y teimlad o arwahanrwydd ac anallu i dreulio amser gyda'u ffrindiau. A dyna pam y mae ysgolion ar hyd a lled Cymru wedi bod yn canolbwyntio ar hynny wrth weld y cyfnod sylfaen yn dychwelyd. Ac yn wir, mae'r rhyngweithio a'r addysgeg honno'n ganolog i'n dull cyfnod sylfaen o weithredu, ac wrth chwarae gyda'i gilydd unwaith eto, bod gyda'i gilydd, sgwrsio gyda'i gilydd, mae plant yn dysgu ac yn caffael sgiliau y maent eu hangen ar gyfer dyfodol hyderus. Dyna pam ein bod wedi sicrhau bod amser a lle o fewn y cwricwlwm i hynny ddigwydd, a dyna pam ein bod wedi sicrhau bod arian ychwanegol ar gael gyda'n gilydd i sicrhau bod oedolion yno i gefnogi plant wrth iddynt ymroi eto i ddysgu wyneb yn wyneb ac ailsefydlu'r berthynas gyda'u cyfoedion a chyda'u hathrawon a'u cynorthwywyr addysgu.