Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 17 Mawrth 2021.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Hynny yw, mae gennyf fi a llawer o bobl eraill rwy'n siŵr, bryderon difrifol ynglŷn â'r ffordd y mae athrawon cyflenwi’n cael eu trin a'u talu drwy asiantaethau. Gwn nad dyma'r ateb gorau, ond gallai cynghorau ail-greu'r gofrestr gyflenwi a chyflenwi athrawon fel eu bod yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan gynghorau, neu gonsortia o gynghorau, ac yna’n mynd i ysgolion yn hytrach na’u bod yn cael eu cyflogi gan yr asiantaeth sy'n mynd â chyfran o’u cyflog.