Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 17 Mawrth 2021.
Diolch, Bethan, ac mae'n debyg mai hwn yw'r cwestiwn olaf y bydd Bethan yn ei ofyn i mi, felly hoffwn ddymuno'r gorau i Bethan. Bethan, ers cyflwyno ein diwygiadau i gyllid myfyrwyr, sy'n unigryw yn Ewrop, mae cynnydd o 40 y cant wedi bod yn nifer y myfyrwyr rhan-amser sy’n astudio ar gyfer eu gradd gyntaf yng Nghymru, ac rydym hefyd wedi gweld cynnydd o 21 y cant yn nifer y myfyrwyr rhan-amser o Gymru sy'n dod o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig.