3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 17 Mawrth 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac rwyf fi, yn wir, yn barod i ofyn fy nghwestiwn.
2. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i hyrwyddo pleidleisio ymysg pobl ifanc cyn etholiadau'r Senedd? OQ56436
Diolch am y cwestiwn. Mae elfen Pleidlais 16 ymgyrch yr etholiad yn cael ei chyflwyno ledled Cymru ac yn cynnwys talu am hysbysebion, gwaith hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau. Rydym yn hysbysebu ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram ac YouTube, ac yn cynnal ystod o ddigwyddiadau ar gyfer ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid, a bydd hyn yn parhau drwy fis Ebrill. Ac fe wnaethom ni, wrth gwrs, weithio gydag ystod eang o gyrff yn ystod wythnos olaf mis Chwefror ar gyfer Wythnos Pleidlais 16, a oedd yn cynnwys digwyddiadau fel gwasanaeth ysgol, hyfforddiant i weithwyr addysg proffesiynol, a ffug ddadl etholiad dan arweiniad Teleri Glyn Jones o'r BBC.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith rydych chi a Chomisiwn y Senedd yn ei wneud yn hyrwyddo'r etholiad i bleidleiswyr tro cyntaf a phleidleiswyr iau, ac wrth gwrs, bydd hwn yn gam mor ddramatig ymlaen i bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru. Mae'n gam ymlaen gwirioneddol i ddemocratiaeth. Ond mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod pleidleiswyr tro cyntaf, pleidleiswyr iau, yn deall y pŵer sydd ganddynt yn y blwch pleidleisio, yn ogystal ag ymarferoldeb sut i bleidleisio, fod ganddynt wybodaeth hawdd ei chyrchu ynghylch ymgeiswyr a pholisïau’r pleidiau, a'u bod yn hyderus gyda system etholiadol hybrid y Senedd, ond hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, eu bod yn deall, fel y dylai pob un ohonom ddeall, fod pleidleisio ynddo’i hun yn hawl werthfawr ac yn fraint a gryfheir o'i harfer yn rheolaidd. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith sefydliadau fel Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, yr Urdd, y Blwch Democratiaeth, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru ac eraill sy'n gwneud eu gorau glas, ochr yn ochr â'r gwaith rydych chi'n ei wneud, i annog pleidleiswyr ifanc a phleidleiswyr tro cyntaf i gofrestru i bleidleisio ac i ddefnyddio eu pleidlais hefyd? Mae hwn yn amser cyffrous, a gadewch inni sicrhau bod lleisiau pob un o’n pleidleiswyr ifanc yn cael eu clywed.
Mae'n bendant yn amser cyffrous i'n pobl ifanc. Mae pobl ifanc, wrth gwrs, wedi cael eu heffeithio i raddau mwy nag unrhyw un, o bosibl, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a gobeithio y byddant yn defnyddio eu llais yn y blwch pleidleisio fel pobl ifanc 16 a 17 oed, ac yn gwneud hynny fel y bobl ifanc 16 a 17 oed cyntaf erioed yng Nghymru i wneud hynny. Ac rydych yn llygad eich lle hefyd: mae'r gwaith y mae'r Comisiwn a Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyrwyddo’r bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed yn anuniongyrchol tuag at y bobl ifanc hynny; mae pobl eraill a all weithio gyda ni ac ar ein rhan i weithio'n uniongyrchol gyda'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy, ac mae'r bobl ifanc, wrth gwrs, yn ymddiried yn y ffynonellau hynny, boed hynny mewn ysgolion neu mewn sefydliadau allanol. Felly, rydym yn awyddus iawn, ac wedi bod yn awyddus i gefnogi ymdrechion trydydd partïon i'n cefnogi gyda’n hymdrechion i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu haddysgu ynglŷn â'r hawliau newydd sydd ganddynt, a'u bod yn cael eu cymell i wneud hynny. Ac mae gan bob un ohonom sy'n sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiad ym mis Mai gyfrifoldeb hefyd, fel pleidiau gwleidyddol ac fel ymgeiswyr unigol, i sicrhau bod ein maniffestos a'n negeseuon a'n dulliau cyfathrebu yn ddigon diddorol i ennyn diddordeb pobl ifanc.
Mae hyn mor bwysig, i gael pobl ifanc yn gallu pleidleisio, ond mae fe'n bwysig hefyd ar gyfer y genhedlaeth sydd ar eu hôl nhw. Mae swyddfa'r comisiynydd plant yn rhedeg etholiad seneddol amgen ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 15 mlwydd oed. Mae hyn yn rhoi cyfle i bawb fydd yn gallu pleidleisio yn yr etholiad yn 2026 i gael profiad realistaidd o'r profiad o bleidleisio. Mae 85 o ysgolion dros Gymru gyfan wedi arwyddo lan i fod yn rhan o Project Vote yn barod. So, a fyddech chi'n ymuno â fi i annog pob ysgol uwchradd i gymryd rhan yn y prosiect arloesol a hollbwysig yma?
Byddwn i wrth fy modd yn gweld mwy o ysgolion yng Nghymru yn cymryd yr arweiniad a'r cyngor a'r adnoddau sydd gan y comisiynydd plant i fod yn cynnal y digwyddiadau etholiadol yna, yr etholiadau ffug ar gyfer yr ystod oedran yna o bobl ifanc sydd ddim eto yn cael yr hawl i bleidleisio yn y Senedd ond a fydd yn yr etholiadau nesaf, ac o bosib hyd yn oed yn etholiad y cynghorau sir y flwyddyn nesaf wrth gwrs.
Cymryd rhan mewn ffug etholiad yn ysgol uwchradd Llanbed ym 1983 oedd fy mhrofiad cyntaf i yn y byd etholiadol, a dwi'n cofio hynny'n dda hyd heddiw. Dwi'n gobeithio'n fawr y bydd y profiad yma y mae'r comisiynydd plant a'i swyddfa hi yn ei roi i bobl ifanc yn yr ysgolion uwchradd hynny yn ennyn diddordeb y bobl yna i bleidleisio ac i gymryd rhan yn ein bywyd democrataidd ni am y blynyddoedd i ddod. Felly, diolch yn fawr i'r comisiynydd plant a'r swyddfa a phawb sy'n gweithio ar y cynllun yma yn yr ysgolion yn hyrwyddo ein democratiaeth ac ymwneud â diddordeb pobl ifanc yn y drafodaeth ddemocrataidd honno.
Diolch. Cwestiwn 3, sydd hefyd i'w ateb gan y Llywydd, Vikki Howells.