Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 17 Mawrth 2021.
Mae'r Comisiwn wedi cefnogi'r Senedd, ei phwyllgorau a'i Haelodau i gyflawni eu swyddogaethau yn ystod y pandemig, ac mae'r Comisiwn yn mynd ati yn rheolaidd i adolygu'r ymateb i faterion wrth iddynt godi ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys adborth gan Aelodau, arolygon staff rheolaidd ac adolygiadau llywodraethu a risg.