Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 17 Mawrth 2021.
Diolch, a diolch i'r Cadeirydd am gyflwyno'r ddadl. Rwy'n sicr yn meddwl, gyda chefndir y Cadeirydd, ei bod yn gwneud cryn dipyn i hyrwyddo byw mewn ardaloedd twristaidd yng Nghymru. Nid wyf yn siŵr a yw hynny ar gyfer ail gartrefi neu brif gartrefi, ond rhoddodd ddisgrifiad da iawn o'r ddeiseb hefyd yn fy marn i, sy'n fwy manwl nag a ddeallais o ddarllen y disgrifiad ysgrifenedig byrrach a gawsom. Siaradodd Siân yn awr am yr amgylchiadau penodol yng Ngwynedd a chyfeiriodd at gymhareb enillion a phrisiau tai o 5.9, ond y cyfartaledd ar gyfer y DU gyfan yw 8. Clywsom gan Delyth am anawsterau penodol gydag ail gartrefi a chartrefi gwyliau yn ne-ddwyrain Cymru a gynrychiolir gan y ddau ohonom, ond o edrych ar y data swyddogol, dim ond mewn nifer fach iawn o wardiau y ceir y berchnogaeth honno ar raddfa fawr yn ein rhanbarth.
Ac os edrychwch ar ardaloedd gwledig, byddwn yn dweud bod problem wedi bod ar draws rhannau helaeth o Ewrop mewn gwirionedd ers o leiaf ganrif o ran diboblogi gwledig, ac mae rhai o'r ardaloedd hynny wedi gweld lefelau cynyddol o berchnogaeth ail gartref, yn rhannol am fod rhai pobl yn gadael yr ardaloedd ond yn cadw eiddo yno, tra'n byw mewn mannau eraill hefyd. Ac rwy'n credu bod llawer o berchnogion ail gartrefi'n cael eu gwneud yn fychod dihangol, ac rydym wedi gweld rhywfaint o hynny yn ystod argyfwng COVID. Ond yma hefyd, mae geiriad y ddeiseb ysgrifenedig yn dweud bod prisiau y tu hwnt i gyrraedd pobl oherwydd bod yr holl berchnogion ail gartref hyn yn dod i mewn. Rwy'n siŵr bod hynny'n digwydd mewn rhai ardaloedd lleol penodol, ac rwy'n credu bod tai cymdeithasol, wedi'u gosod ar rent a rhanberchenogaeth, lle mae'n rhaid iddynt fod yn brif breswylfa, yn un ffordd o liniaru hynny. Ond mae ystod ehangach o faterion yn codi. Mae'n debyg bod y syniad y bydd awdurdodau lleol rywsut yn gallu rheoli'r farchnad dai yn dilyn trafodaethau brys gyda Llywodraeth Cymru yn afrealistig. Mae ystod eang o ddylanwadau economaidd yn digwydd ar y farchnad dai, ac mae llywodraeth leol ac eraill yn dylanwadu ar y farchnad honno mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yng Ngwynedd, yr enghraifft a roddwyd, lle rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r deisebwyr yn byw, mae llawer o bobl yn dweud yr hoffent gadw eu prif breswylfa, eu bod wedi tyfu i fyny yno, ond mewn gwirionedd, prinder cyfleoedd cyflogaeth sy'n arwain pobl, mewn llawer o achosion, i adael yr ardal, ac yna mae rhai o'r tai hynny wedyn yn cael eu prynu gan berchnogion ail gartrefi.
Yn yr un modd, yng Ngwynedd, ceir polisi addysg Gymraeg lle ceir 100 o ysgolion prif ffrwd, ac mae'n dweud eu bod i gyd yn ddwyieithog, ond mewn gwirionedd, pan fyddant yn dweud dwyieithog, dyna sut y maent yn ei ddisgrifio; mewn mannau eraill yng Nghymru credaf y byddem yn galw'r rheini'n ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, mae ganddynt bolisi o beidio â rhoi gwersi Saesneg i bobl nes eu bod yn saith neu wyth oed. Ac os ydych yn yr ardal honno a bod llawer o swyddi lle mae'r Gymraeg yn hanfodol mewn mannau eraill yng Nghymru, yna i raddau anghymesur bydd pobl sy'n dysgu Cymraeg yn yr ardaloedd hynny drwy'r ysgolion hynny—efallai y bydd nifer uwch o'r rheini'n symud i gymryd y swyddi hynny lle mae'r Gymraeg yn hanfodol mewn mannau eraill. Yn yr un modd, os oes gennych bobl sydd am gael addysg cyfrwng Saesneg i'w plant, ac nad ydynt yn gallu ei chael yng Ngwynedd—mae ganddynt eu prif breswylfa yno a chawsant eu dysgu drwy'r Saesneg eu hunain—bydd rhai o'r bobl hynny wedyn yn symud oddi yno, ac ni fydd ganddynt brif breswylfa yno mwyach, ac mae rhai o'r cartrefi hynny unwaith eto'n cael eu prynu gan berchnogion ail gartrefi. Bydd pobl eraill, sydd efallai'n symud i mewn o ardal drefol mewn mannau eraill, dros amser, yn awyddus i symud yno'n barhaol, ond mewn rhai achosion ni fyddant yn symud yno'n barhaol fel prif breswylfa nes bod eu plant wedi gorffen yr ysgol, oherwydd mae'n dipyn o rwystr i bobl ei oresgyn i'w plant orfod dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac rwy'n gwybod bod yna bum canolfan iaith Gymraeg lle mae pobl yn mynd am ddau i dri mis o drochi, ond nid yw hynny'n gweithio wedi blwyddyn 9, ac efallai y bydd llawer o bobl yn dewis peidio â gwneud hynny.
Felly, rwy'n credu bod angen i gyngor Gwynedd ac eraill hefyd edrych ar eu polisïau a'r effaith y maent yn ei chael—er yr hoffwn fod yn glir yn Diddymu ein bod yn credu y dylai awdurdodau lleol allu penderfynu ar eu polisïau ar gyfer y Gymraeg yn yr ysgol, ac rydym yn credu y dylid cael cyllid ar gyfer ysgolion rhydd i roi dewis i bobl a rhieni os ydynt yn dymuno gwneud penderfyniad gwahanol. Ond rwy'n credu bod hwn yn faes cymhleth. Rwy'n dymuno'n dda i'r deisebwyr, ond nid wyf yn credu ei bod yn iawn inni wneud perchnogion ail gartrefi'n fychod dihangol, ac rwy'n amheus y bydd y sefyllfaoedd y maent yn poeni amdanynt yn cael eu datrys gan y polisïau a gynigir.