– Senedd Cymru am 6:54 pm ar 23 Mawrth 2021.
Eitem 14 sydd nesaf, a'r rhain yw Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog i gyflwyno'r rheoliadau—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Diolch. Rwy'n cynnig y cynnig. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu ar yr offeryn statudol hwn. Yn dilyn adborth gan y pwyllgor, mae'r offeryn wedi'i ddiwygio a'i ailosod, gan sicrhau bod y rhan fwyaf o'r pwyntiau craffu technegol sydd wedi'u codi wedi'u hymdrin â nhw. Bydd y newid angenrheidiol i ymdrin â'r pwynt technegol sy'n weddill yn cael ei wneud ar y cyfle addas nesaf. Mae Rhannau 2 i 4 o'r rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth Cymru i ddarparu fframwaith rheoleiddio i alluogi cynlluniau cymorth datblygu gwledig domestig newydd, ochr yn ochr â rhaglen datblygu gwledig yr UE 2014-20. Ymgynghorwyd ar y gwelliannau eu hymgynghori arnyn nhw yn yr ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', y gwnes i ei lansio ar 31 Gorffennaf 2020 ac a ddaeth i ben ar 23 Hydref y llynedd. Mae Rhan 5 o'r offeryn yn gwneud mân ddiwygiadau i ymdrin â gwallau a oedd wedi'u nodi yn neddfwriaeth yr UE a ddargedwir sy'n ymwneud â thaliadau uniongyrchol er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gywir a'i bod yn gweithredu'n effeithiol. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore ddoe, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys un pwynt technegol a dau o bwyntiau rhinweddau. Gwnaethom ni nodi fersiwn blaenorol o'r rheoliadau hyn ac adroddiad drafft ar y rheoliadau hynny yn ein cyfarfod ar 15 Mawrth. Fel y mae'r Gweinidog newydd ei gadarnhau, yn dilyn ein hadroddiad, tynnodd Llywodraeth Cymru y rheoliadau hynny'n ôl ac ail-lunio set newydd, sy'n destun y ddadl heddiw. Mae'r pwynt technegol yn tynnu sylw at yr hyn sy'n ymddangos yn fater o ddrafftio diffygiol. Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ni ei bod yn cytuno â'n hasesiad ac y byddai'n cywiro'r cyfeiriadau ar y cyfle addas nesaf.
Mae ein pwynt rhinweddau cyntaf yn nodi anghysondeb yn y defnydd o 'shall' a 'must' yn y rheoliadau. Mae 'Ysgrifennu cyfreithiau ar gyfer Cymru: canllawiau ar ddrafftio deddfwriaeth', a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn datgan
'Ni ddylai deddfwriaeth Cymru ddefnyddio "shall" yn y testun Saesneg.... Dylai darpariaethau sy’n gosod rhwymedigaethau ddefnyddio "must"'.
Cafodd yr anghysondeb ei dynnu at sylw Llywodraeth Cymru pan ystyriodd y pwyllgor y fersiwn blaenorol o'r rheoliadau. Nododd Llywodraeth Cymru y pwynt ond ymatebodd na fydd defnyddio 'shall' yn newid effaith y testun.
Mae ein hail bwynt rhinweddau yn tynnu sylw at adran benodol o'r memorandwm esboniadol, sy'n nodi bod swyddogion Llywodraeth Cymru o'r farn bod y rheoliadau'n 'ddiwygiadau technegol rheolaidd i'r fframwaith deddfwriaethol datblygu gwledig'. Fodd bynnag, mae'r memorandwm esboniadol hefyd yn nodi bod y rheoliadau'n
'rhoi fframwaith domestig ar waith i ariannu cynlluniau datblygu gwledig newydd yng Nghymru ar ôl diwedd Cyfnod Gweithredu'r UE'.
Rydym ni wedi tynnu sylw arbennig at y datganiadau hyn oherwydd bod y cod ymarfer ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys asesiad effaith rheoleiddiol yn rhan o'r memorandwm esboniadol, wedi'i osod ochr yn ochr ag offeryn statudol drafft sydd i'w wneud gan Weinidogion Cymru oni bai bod rhai eithriadau'n berthnasol. Un eithriad yw lle mae angen diwygiadau technegol rheolaidd i ddiweddaru rheoliadau. Felly, er ei bod yn ymddangos bod yr eithriad yn gymwys i rai o'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y rheoliadau, mae'n ymddangos bod darpariaethau sy'n rhoi fframwaith domestig ar waith i ariannu cynlluniau datblygu gwledig newydd yn fwy na diwygiadau rheolaidd.
Pan wnaethom ni fersiwn blaenorol y rheoliadau, gwnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru gadarnhau pa eithriad o dan y cod sy'n berthnasol i'r penderfyniad i beidio â chynhyrchu asesiad effaith rheoleiddiol. Wrth gadarnhau ei bod yn ystyried bod y rheoliadau'n cynnwys diwygiadau technegol a ffeithiol arferol, dywedodd ymateb Llywodraeth Cymru hefyd nad yw'r rheoliadau'n creu unrhyw oblygiadau ariannol newydd, sancsiynau troseddol neu feichiau gweinyddol a fyddai'n effeithio ar y sectorau cyhoeddus neu breifat, elusennau neu'r sectorau gwirfoddol. Diolch, Llywydd.
Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r rheoliadau yma, wrth gwrs, a tra eu bod nhw efallai yn eithaf technegol eu natur, dwi'n credu ei bod hi'n bwysig bod parhad yn y gefnogaeth ar gael i ffermwyr Cymru yn y cyfnod ar ôl yr Undeb Ewropeaidd a'r polisi amaeth cyffredin, wrth gwrs, ac mi fydd y rheoliadau yma'n rhoi rhywfaint o sicrwydd yn hynny o beth. Dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi ailystyried ynglŷn â chefnogaeth i ffermwyr ifanc. Dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig iawn ac, wrth gwrs, mae angen mae mwy na dim ond hynny, ond mae e'n rhywbeth positif.
Mi fyddem ni, wrth gwrs, yn awyddus—a dwi wedi treial codi hyn yn y gorffennol gyda'r Gweinidog a dwi ddim o reidrwydd wedi cael ateb pendant. Ond rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, bod yna ymrwymiadau wedi cael eu gwneud na fydd yna geiniog yn llai yn cael ei thalu neu ar gael inni gefnogi amaethwyr ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, fe welsom ni sut y gwnaeth y
Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan dorri £137 miliwn o'r gyllideb honno yn syth a thorri pob addewid oedd wedi ei roi cyn hynny. Ond, wrth gwrs, mae yna ran o'r fargen honno y mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd ei chydnabod, sef, wrth gwrs, gyda'r cydariannu domestig y byddai Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i'r cynllun datblygu gwledig yn y cyfnod 2021-27. Mi fyddwn i'n gofyn i'r Llywodraeth ei wneud yn glir ei bod i'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i barhau â'r ymrwymiad hwnnw doed a ddelo. Dwi'n meddwl y byddai hynny efallai hefyd yn rhywbeth y dylen ni fod yn ei wneud yn glir, felly, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog ymateb yn hynny o beth.
Ond gan, hefyd, mai hwn yw'r cyfle olaf efallai i fi ymateb i'r Gweinidog yn ffurfiol yn y Senedd yma, dwi eisiau diolch iddi am ei gwaith. Dŷn ni ddim wedi gweld llygad yn lygad bob tro, a dwi yn eithaf siŵr bod lle rŷn ni eisiau ei gyrraedd yn debyg iawn efallai, ond mai anghydweld ynglŷn â'r ffordd yna efallai rŷn ni wedi gwneud dros y cyfnod diwethaf yma. Ond, yn sicr, er gwaethaf unrhyw anghytuno, mae wedi ymwneud â fi fel cysgod Weinidog yn sicr mewn modd hawddgar a theg, ac am hynny yn sicr dwi eisiau dweud diolch.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. O ran ymateb Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fe wnaf gadarnhau eto y bydd y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i ymdrin â'r un pwynt technegol sy'n weddill ar y cyfle addas nesaf.
Hoffwn i ddiolch i Llyr Huws Griffiths am ei eiriau caredig iawn. Mae ef yn llygad ei le, nid ydym ni bob amser wedi cydweld, ond rydym ni bob amser wedi ymwneud â'n gilydd, fel y dywedodd ef, mewn modd cyfeillgar, ac rwyf i bob amser wedi bod â diddordeb mawr yn ei farn ac wedi parchu'r sylwadau y mae wedi'u cyflwyno.
Ond o ran y mater ariannu, nid wyf i eto wedi rhoi'r gorau i gredu y bydd Llywodraeth y DU yn ein hariannu ni'n iawn. Ddoe ddiwethaf, fe wnes i drafod hyn gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ein cyfarfod grŵp rhyng-weinidogol diweddaraf gan DEFRA, ac eglurais i eto sut yr oedd Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid na fyddai Cymru'n colli ceiniog os byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r trafodaethau hynny'n dal i fynd rhagddynt, a gallaf i weld fy nghyd-Weinidog y Gweinidog Cyllid yn y Cyfarfod Llawn heddiw, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n parhau i ymladd hynny hefyd.
Mater i'r Llywodraeth nesaf, yn amlwg, fydd edrych ar sut y byddai modd nodi'r cyllid hwnnw, ond, yn amlwg, mae £137 miliwn yn swm enfawr o arian i ddod o hyd iddo, ond byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gadw eu haddewid, wrth symud ymlaen. Diolch.
Diolch. A'r cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i'r cynnig yma, felly mae'r cynnig yn cael ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.