Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 23 Mawrth 2021.
Diolch, Prif Weinidog, am ateb synhwyrol yn y fan yna yn hytrach na darllediad gwleidyddol. Fel y gwyddoch chi, mae'r Ceidwadwyr Cymreig eu hunain wedi ymrwymo yn llwyr i ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Mae cryn dipyn o dir ac eiddo sy'n eiddo cyhoeddus yn fy rhanbarth i o hyd, yn enwedig yn Aberafan. Fel y mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi dweud y bydd diweithdra ymhlith pobl ifanc yn cael ei lesteirio o ganlyniad i COVID, ac yng ngoleuni pryderon parhaus am gyflogwr craidd yr etholaeth, fel yr ydych chi newydd gyfeirio ato, beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio asedau sy'n eiddo cyhoeddus i helpu i greu buddsoddiad a swyddi sydd o fudd i bobl ifanc yn Aberafan?