Economi Leol Aberafan

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 23 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:34, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo economïau lleol ledled Cymru, gan gynnwys economi Aberafan, gyda'n pecynnau cyllid sydd ar gael i fusnesau mewn ymateb i'r pandemig yn ogystal â thrwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi.