Cefnogi Busnesau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 23 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:17, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, a gaf i ddiolch i Angela Burns am y cwestiwn adeiladol iawn yna, ac yn wir am y dôn y mae hi bob amser yn ei defnyddio wrth godi cwestiynau yma ar lawr y Senedd? Nid wyf i'n anghytuno â'r pwyntiau y mae hi'n eu gwneud o gwbl. Dyna pam yr ydym ni wedi ceisio rhoi cymaint o amser rhagarweiniol ag y gallwn ni i'r diwydiant ailagor llety hunangynhwysol, a fydd yn dal yn bosibl ar gyfer cyfnod y Pasg, rwy'n gobeithio, ac rwyf i wedi dweud, yn y cyfnod y tu hwnt i 12 Ebrill, dechrau agor lletygarwch awyr agored wedyn, sy'n rhan annatod o'r diwydiant twristiaeth, wrth gwrs, yn y de-orllewin—y bydd hynny ar y bwrdd i ni ei ystyried bryd hynny, ar yr amod bod amgylchiadau iechyd cyhoeddus Cymru yn caniatáu hynny.

Llywydd, nid wyf i'n tybio, os byddaf yn gwneud hyn, ei bod yn debyg y byddwch chi'n gallu gweld clawr y ddogfen hon—roeddwn i eisiau ei wneud, dim ond am ei fod yn dangos llun mor wych o etholaeth yr Aelod ei hun. A dyma'r ddogfen a gyhoeddwyd gennym ni yr wythnos diwethaf: 'Dewch i Lunio'r Dyfodol. Gweithio mewn partneriaeth i ail-greu dyfodol cydnerth i'r economi ymwelwyr yng Nghymru.' Mae hon yn ddogfen a luniwyd mewn partneriaeth â'r sector ei hun, ac mae'n ceisio ateb rhai o'r cwestiynau y mae'r Aelod wedi eu codi gyda ni y prynhawn yma. Mae'r darlun yn y fan yna o Draeth y Gogledd a Thraeth yr Harbwr yn Ninbych-y-pysgod yn ein hatgoffa ni i gyd o'r asedau naturiol gwych sydd gennym ni yma yng Nghymru ac y mae'r Aelod wedi eu cynrychioli yma yn y Senedd. A byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r sector cyhyd ag y gallwn, i wneud yn siŵr y gall ailagor fel y gwnaeth y llynedd, yn ofalus ond yn llwyddiannus ac mewn ffordd a oedd yn caniatáu iddo ymateb i'r heriau y mae'r Aelod wedi eu nodi.