Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 23 Mawrth 2021.
Diolchaf i Jack Sargeant, Llywydd, am y cwestiwn yna. Ddydd Iau diwethaf, 18 Mawrth, cadeiriais gyfarfod diweddaraf bwrdd partneriaeth plismona Cymru. Adolygodd y bwrdd brofiad cymunedau yn ystod y pandemig, ac ailymrwymodd Llywodraeth Cymru a'r heddlu i weithredu gyda'i gilydd i gefnogi cymunedau cryf a diogel ar draws ein gwlad, gan gynnwys etholaeth yr Aelod.