Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 23 Mawrth 2021.
Trefnydd, tybed a gawn ni ddatganiad gan un o'n Gweinidogion Iechyd am bwysigrwydd Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis, sef y mis hwn. Mae hwn yn gyflwr ofnadwy sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw. Fel arfer, byddem ni'n gorymdeithio i dynnu sylw at hyn a natur gymhleth y cyflwr hwn. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth mewn undod ynglŷn â'r ymrwymiad i fynd at wraidd y clefyd hwn a sicrhau ein bod ni'n trin pobl yn fwy effeithiol ac yn gyflymach.