Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 23 Mawrth 2021.
Diolch, Llywydd. Ar 19 Mawrth, roeddwn yn falch o gyhoeddi strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru. Mae'n gosod yr hyn a ystyriwn yn weledigaeth newydd feiddgar ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf. Ac mae cyd-destun y ddogfen yn glir iawn: rydym ni yng nghanol argyfwng hinsawdd, ac mae'n bryd—yn wir, mae'n fater brys—ein bod yn troi'r consensws eang sy'n bodoli nawr o ran gweithredu i fynd i'r afael ag ef yn fesurau ymarferol a radical ar gyfer newid, a dyma'n union y mae'r ddogfen yn ceisio'i wneud.
Gelwir y ddogfen yn 'llwybr newydd', oherwydd mae'n rhaid inni ddilyn llwybr newydd a gwahanol nid yn unig i leihau ôl troed carbon trafnidiaeth yng Nghymru, sy'n cynrychioli tua 17 y cant o gyfanswm ein hallyriadau, ond wrth wneud hynny creu system drafnidiaeth ddibynadwy a fforddiadwy o ansawdd uchel a all gefnogi ffyniant a chydraddoldeb. Dyna pam y mae newid dulliau teithio wrth wraidd ein strategaeth newydd. Ei nod yw mynd i'r afael â'r ddibyniaeth fawr ar geir sy'n ganolog i gymaint o fywyd modern drwy annog llai o deithio mewn ceir a thrwy gefnogi'r seilwaith a'r newidiadau sydd eu hangen i annog cyfran fwy o lawer o deithiau gan fathau cynaliadwy o drafnidiaeth.
Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth syml: yn gyntaf, lleihau'r angen i deithio; yn ail, caniatáu i bobl a nwyddau symud yn haws o ddrws i ddrws drwy fathau cynaliadwy o drafnidiaeth; ac, yn drydydd, annog pobl i wneud y newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy. Her unrhyw strategaeth newydd yw troi syniadau'n gamau gweithredu—newid y gall pobl ei weld a newid y gall pobl elwa arno. Dyna pam yr ydym ni'n cynnwys targedau clir ac uchelgeisiol ar gyfer cynyddu nifer y teithiau a wneir ar fws, rheilffyrdd ac, ar gyfer teithiau lleol, teithio llesol. Am y tro cyntaf, byddwn yn cynyddu cyfran y teithiau a wneir trwy'r dulliau cynaliadwy hyn o 32 y cant heddiw i 45 y cant erbyn 2040, a byddwn yn mynd ymhellach ac yn gyflymach lle gallwn ni, gan adolygu ac ymestyn y targedau hyn gydag amser er mwyn cefnogi ein taith tuag at y targedau hinsawdd sero-net yr ydym ni wedi'u gosod ar gyfer 2050.
Rydym ni eisoes wedi dechrau gweithio ar y gwaith gwerth £750 miliwn o drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a fydd yn sylfaen i fetro de Cymru, rydym ni wedi dod â rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r gororau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus, ac rydym ni'n cymryd mwy o reolaeth dros gynllunio ein rhwydwaith bysiau hanfodol, gyda deddfwriaeth newydd yn cael ei pharatoi i'r Llywodraeth nesaf ei hystyried. Ac efallai'r peth yr wyf fwyaf balch ohono: rydym ni yn buddsoddi mewn seilwaith teithio llesol o ansawdd uchel—mae £75 miliwn wedi'i ddyrannu yng nghyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf, i fyny o'r £5 miliwn a oedd wedi ei neilltuo ar ddechrau tymor y Senedd hon.
Nawr, byddai'r strategaeth hon wedi bod yn hanfodol cyn y pandemig. Ond mae COVID-19 wedi cynyddu'r brys am newid. Oherwydd, yn ogystal â'r tristwch a'r tarfu y mae'r coronafeirws wedi eu hachosi, mae wedi cyflymu llawer o'r newidiadau enfawr sy'n effeithio ar ein cymdeithas a'n heconomi yn sylweddol: bydd newid digidol, ail-lunio canol trefi, yn ogystal â natur gwaith ei hun, yn edrych yn wahanol iawn wrth ddod allan o'r pandemig hwn. Fel y bydd yr Aelodau wedi gweld, nod y strategaeth newydd hon yw sefyll ochr yn ochr â'n fframwaith datblygu newydd, 'Cymru'r Dyfodol', a mentrau fel ein gwaith trawsnewid trefi, wrth gefnogi adferiad ac ail-lunio ein heconomi ar ôl COVID.
Mae hefyd yn ategu'r uchelgais newydd a bennwyd gennym ni, Lywodraeth Cymru, i 30 y cant o bobl ledled Cymru weithio o bell. Yn wir, mae'r strategaeth gyfan wedi'i llunio i raddau helaeth yng nghyd-destun cefnogi Gweinidogion eraill ar draws y Llywodraeth a'r partneriaid ehangach i'n helpu ni i gyd i ddefnyddio trafnidiaeth fel modd o gyflawni ein cyd-flaenoriaethau ehangach.
Fel y gwela'r Aelodau o'r strategaeth, y llinyn euraid arall sy'n rhedeg drwyddo yw tegwch. Nid yw pump ar hugain y cant o bobl yng Nghymru yn berchen ar gar, ac mae gennym ni ddyletswydd i adeiladu system drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a dibynadwy o ansawdd uchel i gefnogi pob cymuned yng Nghymru. Yn wir, gall system drafnidiaeth o ansawdd uchel fod yn arf pwysig i helpu i gefnogi adfywio ac i leihau tlodi mewn llawer o gymunedau yng Nghymru sydd wedi cael eu taro'n galed gan 40 mlynedd o ddad-ddiwydiannu, a dyma yr ydym ni'n ei fwriadu.
Mae hyn yn nodi newid sylweddol mewn polisi trafnidiaeth yng Nghymru, Llywydd, un sy'n cydnabod na fydd dychwelyd i'r drefn arferol yn gwneud y tro os oes arnom ni eisiau lleihau allyriadau trafnidiaeth, cyflymu newid dulliau teithio a chyrraedd ein targedau uchelgeisiol ar gyfer newid hinsawdd, yr ydym ni i gyd wedi ymrwymo iddynt. Mae hynny'n golygu newid y ffordd yr ydym ni'n gwneud penderfyniadau buddsoddi ar draws y Llywodraeth. Wrth wraidd ein dull newydd mae'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy newydd, sy'n amlinellu trefn newydd o ran blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru.
Mae'n amlwg y bydd angen meddwl o'r newydd yng nghyd-destun y strategaeth newydd hon a'r hierarchaeth newydd honno. Ni fydd hi'n gyson dychwelyd at fodel rhagweld a darparu o adeiladu ffyrdd fel yr ateb cyntaf i dagfeydd. Yn wir, credaf fod gwaith diweddar comisiwn Burns yn dangos, gyda meddwl, cydweithio ac ewyllys, fod ffordd o greu ateb amgen, cydgysylltiedig. Ond, yn yr un modd, nid yw polisi cyffredinol o beidio ag adeiladu ffyrdd newydd yn ateb ychwaith. Bydd achos dros adeiladu o'r newydd mewn rhai amgylchiadau ac mae'n amlwg y bydd angen cyflawni'r ddyletswydd statudol sydd arnom ni ar hyn o bryd i gynnal y rhwydwaith ffyrdd presennol.
Mae hynny i gyd yn golygu bod angen fframwaith newydd a deallus arnom ni er mwyn ystyried ym mha amgylchiadau y mae seilwaith newydd, gan gynnwys ffyrdd, yn cael ei ddatblygu ledled Cymru yng nghyd-destun ein targedau, y strategaeth newydd a'n hierarchaeth newydd. Ac rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau gweithio gan ddatblygu'r fframwaith newydd hwnnw a chyfres o fetrigau a all fod yn sail i benderfyniadau ar gyfer seilwaith newydd yn y dyfodol. Byddwn yn gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol weithio gyda ni yn rhan o hyn—a chredaf fod yn rhaid i bwyllgorau'r Senedd nesaf chwarae rhan bwysig wrth lunio'r gwaith hwn hefyd—i ddatblygu consensws ar sut y gellir defnyddio'r metrigau newydd hyn i gyrraedd y targed yr ydym ni i gyd wedi ymrwymo iddo o sero-net erbyn 2050.
Llywydd, mae 'Llwybr Newydd' yn llwybr newydd. Bydd cyflawni ein gweledigaeth yn heriol, ond bydd yn werth yr ymdrech, ac rwy'n falch o fod wedi bod â rhan yn hynny. Diolch.