Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 23 Mawrth 2021.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y briff a roddodd i mi a llefarwyr eraill y gwrthbleidiau yr wythnos diwethaf a diolch i'w swyddogion hefyd am hynny? Mae gennyf rai cwestiynau penodol, yn amlwg, am y strategaeth, ond gwnaf rai sylwadau cyffredinol, oherwydd, wrth gwrs, dyma ddiwedd tymor penodol y Llywodraeth hon.