Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 23 Mawrth 2021.
Diolch. Cyfres dda o gwestiynau heriol yn y fan yna. Rydym ni wrth ein bodd ein bod yn gallu darparu'r £70 miliwn i gyflymu'r broses o ddarparu rheilffyrdd Glynebwy, y gall gwasanaethau o'r diwedd fynd i Gasnewydd yn ogystal ag i Gaerdydd, ac roedd hyn, wrth gwrs, yn un o argymhellion allweddol adroddiad Burns. Rydym ni yn awyddus iawn nad yw adroddiad Burns yn adroddiad sy'n eistedd ar silff, bod gweithredu yn perthyn iddo, bod cyflymder a momentwm yn perthyn iddo. Ac yn y modd hwnnw, rwy'n falch iawn o allu dweud wrth y Senedd heddiw ein bod wedi creu bwrdd cyflawni, a'n bod wedi penodi Simon Gibson yn gadeirydd y bwrdd cyflawni hwnnw i'n dwyn i gyfrif. Yn sicr, nid yw'n ffrind anfeirniadol i Lywodraeth Cymru, ac mae wedi cael ei benodi'n fwriadol fel rhywun a fydd yn sicrhau y byddwn yn gweithredu'n gyflym. Ac rwyf hefyd yn falch iawn o ddweud bod Dr Lynn Sloman, a oedd yn aelod o gomisiwn Burns ac yn ymarferydd blaenllaw ym maes trafnidiaeth gynaliadwy, wedi cytuno i fod yn is-gadeirydd y bwrdd cyflawni hwnnw. Felly, credaf fod y ddau ohonyn nhw yn gyfuniad grymus iawn i sicrhau bod gweithredoedd ac argymhellion adroddiad Burns yn cael eu cyflawni. Rydym yn dechrau gyda phecyn sylweddol o fysiau trydan newydd, teithio llesol ac, wrth gwrs, gyda gwelliant Glynebwy nawr.
Dylwn i hefyd ddweud fod hyn yn gondemniad o Lywodraeth y DU. Nid yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli. Dylai'r gwelliannau yng Nglynebwy fod wedi'u hariannu gan Lywodraeth y DU. Rydym ni eisoes yn cael ein tangyllido'n fawr, fel y dangosodd y gwaith gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yr wythnos hon ar seilwaith rheilffyrdd, a thros y cyfnod rheoli 10 mlynedd nesaf mae Cymru'n cael £5 biliwn yn llai nag y dylem ni fod yn ei gael gan Lywodraeth y DU. Felly, mae'n codi gwrychyn ein bod, yn ychwanegol at y tangyllido presennol hwnnw, wedi gorfod troi at gronfeydd datganoledig i ariannu darn o waith nad yw wedi'i ddatganoli, ac o gofio'r hyn a ddywedwyd gan y Prif Weinidog yn gynharach am yr ystod o gyfrifoldebau yr ydym ni yn ymhel â nhw i wneud iawn am ddiffyg diddordeb Llywodraeth y DU yng Nghymru, pan fyddant yn dweud wrthym ni, fel Plaid Geidwadol, na fydden nhw bellach yn ariannu gweithgareddau nad ydynt wedi'u datganoli. Felly, dyma enghraifft arall eto lle na fyddai'r Torïaid yn ariannu'r mesur gwella hwn yng Nglynebwy, sy'n gyson â'u safbwynt polisi.
O ran bysiau, mae angen rhaglen ddiwygio sylweddol. Fel y soniais, bydd gan y Senedd nesaf ddrafft gan Lywodraeth Cymru, neu bydd gan Lywodraeth Cymru Fil y gallant ystyried bwrw ymlaen ag ef. Mae'r cynllun bysiau brys a gyflwynwyd gennym ni o dan COVID wedi ein galluogi i wneud cynnydd mawr o ran ein perthynas â'r diwydiant bysiau drwy'r gefnogaeth y bu'n rhaid i ni ei rhoi i atal y sector preifat rhag methdalu. Rydym ni wedi gallu sefydlu perthynas gyfnewidiol â nhw i sicrhau eu bod yn ymrwymo i gynnig pecyn ehangach o gyfrifoldebau am y cyllid y byddant yn ei gael, ac mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn dechrau darn o waith sylweddol ar gynllunio sut olwg fyddai ar rwydwaith yn y dyfodol. Felly, mae llawer o waith ar y gweill eisoes, ac mae llawer mwy i'w wneud i sicrhau y gallwn ni gael system drafnidiaeth integredig, y mae cryn sôn amdano. Felly, mae hynny'n rhan annatod o'r pecyn hwnnw.
Ac yna, yn olaf, ynghylch yr her teithio llesol, sydd, yn fy marn i, yn un ddealladwy, fe ddywedaf i ambell beth. Nid yw'n agenda drefol o gwbl. Mae'r gwaith sydd wedi llywio strategaeth drafnidiaeth Cymru yn dangos, er mwyn lleihau allyriadau carbon, y bydd ceir trydan yn gwneud eu rhan, wrth gwrs, ond ni allwn ni ddibynnu ar geir trydan; rhaid inni gael newid dulliau teithio, a bydd y baich hwnnw'n pwyso'n drwm ar drafnidiaeth gyhoeddus, bysiau yn bennaf, ond hefyd teithio llesol, ar gyfer y teithiau byr hynny. Mae deg y cant o deithiau mewn ceir o dan filltir. Mae rhywbeth fel hanner teithiau car o dan bum milltir. Nawr, i rai pobl—nid i bawb, ond i rai pobl—mae modd i'r teithiau hynny newid i deithio llesol.
Nawr, ynglŷn â sylw Alun Davies byddwn yn dweud dau beth. Rydych chi'n edrych yn ôl hanner canrif ym Mlaenau Gwent ac roedd cryn dipyn mwy o feicio nag y sydd yno nawr. Dydy'r bryniau ddim wedi ymddangos dros nos. Mae llawer o hyn yn ymwneud â chanfyddiad ac mae'n ymwneud â diwylliant ac mae'n ymwneud ag arfer, ac yn sicr mae ein cyflyrau iechyd wedi gwaethygu yn y cyfnod hwnnw, ac rwy'n credu bod y ddau beth hyn yn gysylltiedig. Yn wir, mae tystiolaeth gref i ddangos eu bod nhw. Ond rwy'n credu bod beiciau trydan yn cynnig ffordd ymarferol, wirioneddol ymlaen i lawer o ardaloedd, yn enwedig ardaloedd bryniog ac ar gyfer ardaloedd gwledig a lled-wledig. Rydym ni newydd gyhoeddi prosiect treialu, arbrofol, mewn gwirionedd, mewn ardaloedd bryniog, yn y Barri ac yn Abertawe yn y lle cyntaf, gan dargedu ardaloedd mwy difreintiedig, cynllun benthyciadau cost isel y mae Sustrans yn ei reoli ar ein rhan, gan dargedu cymunedau difreintiedig i geisio cael pobl i ddefnyddio beiciau trydan, ac yna prosiect tebyg gan ddefnyddio e-feiciau cargo i geisio cael busnesau bach i ddefnyddio beiciau trydan ar gyfer danfon nwyddau y filltir olaf honno yn Aberystwyth ac mewn un dref arall na allaf ei chofio ar hyn o bryd—ymddiheuriadau. Ond os bydd hynny'n llwyddiannus, yna credaf y dylem ni fod yn cyflwyno hynny i gymunedau fel Blaenau Gwent ac yn rhan—. Gyda'r seilwaith cywir ar waith i argyhoeddi pobl ei fod yn amgylchedd diogel, ynghyd â'r beiciau trydan, rwy'n credu bod potensial sylweddol ar gyfer newid dulliau teithio.